Technolegau Peirianneg Lefel 3

Amser llawn
Lefel 3
EAL
Tycoch
Dwy flynedd
Ymgeisiwch nawr

Trosolwg

Bwriad y cwrs dwy flynedd hwn (cyfwerth â thri chymhwyster Safon Uwch) yw rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ateb anghenion diwydiannau peirianneg fecanyddol a thrydanol fodern.

Gwybodaeth allweddol

Gofynion Mynediad

Pum gradd C neu uwch ar lefel TGAU gan gynnwys Mathemateg haen ganolradd/uwch a phwnc Gwyddoniaeth.

Dull Addysgu’r Cwrs

  • Mathemateg peirianneg 
  • Egwyddorion mecanyddol e.e. ffiseg 
  • Gwyddor defnyddiau 
  • Hydroleg/niwmateg 
  • CAD/CNC  
  • Peirianneg amgylcheddol
  • Weldio/ffabrigo a pheiriannu. 

Cyfleoedd Dilyniant

Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe gallech ddewis cwrs HND mewn Peirianneg Drydanol neu Beirianneg Fecanyddol.

Mae’r cymhwyster hwn yn denu pwyntiau UCAS a fydd yn rhoi modd i chi symud ymlaen i radd prifysgol neu brentisiaeth gradd. Mae dysgwyr sy’n cwblhau’r cwrs wedi symud ymlaen i Brifysgol Abertawe, Prifysgol Brunel, Prifysgol Plymouth, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Aberdeen i astudio ar gyfer B.Eng mewn Peirianneg Fecanyddol a Pheirianneg Drydanol/Electronig a graddau gyrfa eraill. 

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd gofyn i chi ddefnyddio cyfarpar diogelu personol yn y sesiynau ymarferol a bydd angen prynu hyn cyn dechrau’r cwrs. 

Bydd angen arnoch oferôls gwrthfflam, esgidiau blaen dur, helm weldio a menig diogelwch.

 

Hoffech chi astudio'r cwrs hwn?

Ymgeisiwch nawr!