Skip to main content
New block

Adeilad addysgu newydd yng Ngorseinon wedi agor yn swyddogol

Mae adeilad addysgu newydd sbon gwerth £2.8 miliwn ar gampws Gorseinon Coleg Gŵyr Abertawe wedi cael ei ddadorchuddio’n swyddogol.

Mae’n cynnwys 11 ystafell ddosbarth, saith ystafell TG, a champfa gyda chyfleusterau cawod a lloches parcio beiciau. Fe’i hagorwyd yn ffurfiol ar 6 Chwefror gan yr Athro Syr Leszek Borysiewicz, Is-Ganghellor Prifysgol Caergrawnt.

Roedd Syr Leszek wedi dadorchuddio plac coffa o flaen cynulleidfa o westeion gwadd gan gynnwys Arglwydd Raglaw EM Gorllewin Morgannwg, Arglwydd Faer Abertawe a chyn staff addysgu a Phenaethiaid y coleg. Wedyn, aethpwyd â nhw o gwmpas y campws i weld y cyfleusterau addysgu newydd.

Aethpwyd â’r gwesteion i’r llyfrgell hefyd, lle bu gwelliannau sylweddol. Mae wedi cael ei ehangu dros ddau lawr, gan ddarparu lleoedd pwrpasol ar gyfer dysgu cymdeithasol ac astudio tawel / mewn grwpiau yn ogystal â labordy arloesi, pod dysgu ac ystafell hyfforddi ar gyfer staff.

“Fel coleg, rydym yn hynod o falch o’n buddsoddiad parhaus mewn cyfleusterau ac roedd y digwyddiad hwn yn gyfle gwych i fynd â’n gwesteion arbennig o gwmpas y coleg – mae rhai ohonyn nhw heb fod yn ôl i’r coleg ers blynyddoedd lawer,” dywedodd y Pennaeth Mark Jones. “Agorwyd yr adeilad addysgu newydd a’r llyfrgell ar ei newydd wedd fis Medi diwethaf, ar amser ac o fewn y gyllideb, ac ers hynny maen nhw wedi bod yn lleoedd dysgu ac addysgu o’r radd flaenaf. Mae gyda ni ffreutur newydd gwerth £1.2 miliwn yng Ngorseinon hefyd, gan gynnwys bar coffi a cheginau newydd, ac mae hyn wedi sicrhau bod gan staff a myfyrwyr lawer mwy o le i ymlacio rhwng dosbarthiadau.”

Yn ddiweddar mae’r adeilad addysgu newydd wedi cael ei enwi yn ‘Adeilad Addysgol Gorau’ yng Ngwobrau Rhagoriaeth Adeiladu Dinas a Sir Abertawe 2014 i gydnabod y gwaith adeiladu o safon.

“Mae hyn yn anrhydedd gwych. Pleser o’r mwyaf oedd croesawu’r Athro Syr Leszek Borysiewicz i’r agoriad swyddogol,” ychwanegodd Mark. “Mae gan Goleg Gŵyr Abertawe gysylltiadau agos iawn â Phrifysgol Caergrawnt gan mai ni yw’r ‘prif’ sefydliad o fewn Consortiwm AU+ Abertawe – cydweithrediad rhwng y coleg, y saith ysgol chweched dosbarth leol a Phrifysgol Caergrawnt, sy’n annog myfyrwyr i anelu mor uchel ag sy’n bosibl wrth wneud dewisiadau prifysgol.”