Skip to main content
Ar ôl blwyddyn anodd, mae Coleg Gŵyr Abertawe yn edrych ymlaen

Ar ôl blwyddyn anodd, mae Coleg Gŵyr Abertawe yn edrych ymlaen

Ar ôl yr hyn a fu’n flwyddyn academaidd heriol iawn, mae Coleg Gŵyr Abertawe bellach yn paratoi ar gyfer 1 Medi pan fydd myfyrwyr yn dychwelyd.

Mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo drwy gydol yr haf i addasu adeiladau’r campysau yng ngoleuni Covid-19 a bydd pethau’n edrych yn wahanol iawn pan fydd dysgwyr yn dychwelyd ar gyfer eu sesiynau sefydlu.

 

“Mae gyda ni ddwy flaenoriaeth glir iawn ar gyfer y tymor nesaf a thu hwnt,” esboniodd y Pennaeth Mark Jones.

“Uwchlaw pob dim yw iechyd a diogelwch ein myfyrwyr, ein staff a’n hymwelwyr. Er ei fod yn dal i fod yn amgylchedd croesawgar iawn wrth gwrs, bydd unrhyw un sy’n cerdded i mewn i un o adeiladau’r Coleg nawr yn gweld ar unwaith y newidiadau rydyn ni wedi’u gwneud i sicrhau bod mesurau pellhau cymdeithasol a hylendid gwell yn cael eu dilyn.

“Yn ail, rydyn ni am barhau i ddarparu dysgu ac addysgu o’r safon uchaf a chynnig y cymorth sydd ei angen ar ein myfyrwyr i ddilyn y llwybr dilyniant o’u dewis, p’un a yw hwnnw’n brifysgol flaenllaw, swydd, prentisiaeth, cwrs arall yn y Coleg, neu gymorth cyflogadwyedd - dyma beth rydyn ni’n ei alw yn Warant Coleg Gŵyr Abertawe.”

Ar y dechrau, bydd myfyrwyr sy’n astudio cyrsiau amser llawn yn cael eu rheoli yn eu grwpiau cyswllt cyrsiau unigol, neu ‘swigod’. Bydd myfyrwyr cyrsiau rhan-amser – a fydd yn ailddechrau yn fuan - prentisiaethau a rhaglenni cyflogadwyedd yn dilyn canllawiau pellhau cymdeithasol.

Fodd bynnag, nid yw’r Coleg yn cymryd dim yn ganiataol ac mae ganddo ddau gynllun cadarn ar wahân pe bai amgylchiadau’n newid.

Cynllun A yw y bydd myfyrwyr amser llawn yn dechrau’r tymor gyda darlithoedd wyneb yn wyneb yn bennaf yn yr ystafell ddosbarth, sy’n cyfateb i ryw bedwar diwrnod yr wythnos yn y Coleg. Ategir hyn gan rywfaint o addysgu ar-lein mewn meysydd megis Bagloriaeth Cymru ac ailsefyll arholiadau TGAU.

Os bydd canllawiau swyddogol Llywodraeth Cymru yn newid yn ddiweddarach yn y flwyddyn, yna byddai Cynllun B yn cael ei weithredu. Mae hyn yn cymryd agwedd fwy cyfunol tuag at ddysgu ac addysgu, gyda llai o addysgu wyneb yn wyneb a mwy o addysgu ar-lein. Dyma’r model a ddefnyddiodd y Coleg rhwng mis Mawrth a mis Mehefin, ac a gafodd groeso mawr gan rieni a myfyrwyr.

“Mae cael dau gynllun ar waith yn golygu y gallwn ni fod yn hyderus, os bydd angen i ni newid ein dulliau addysgu, y gallwn ni wneud hynny’n ddiymdrech a pharhau i newid yn ôl ac ymlaen yn ôl yr angen heb darfu gormod ar y myfyrwyr,” meddai Mark.

Cafodd dysgu ac addysgu wyneb yn wyneb ei atal yn y Coleg ar 20 Mawrth, wrth i’r wlad ddod o dan gyfyngiadau, a chafodd yr holl addysgu dilynol ei symud ar-lein. Er gwaethaf yr heriau a gododd yn dilyn hyn wrth reswm, mae Mark yn hynod falch o’r ffordd y gwnaeth pawb addasu i sefyllfa ddigynsail.

“Fel pawb arall, bu’n rhaid i ni fod yn wydn ac yn hyblyg bob cam o’r ffordd,” ychwanegodd. “Ond yn aml wrth wynebu argyfwng, fe welwch chi fod ‘na gyfleoedd cudd hefyd, ac mae’r ffordd y mae ein staff a’n myfyrwyr wedi cofleidio’r byd dysgu rhithwir wedi bod yn wych. Rydyn ni hefyd wedi parhau i fuddsoddi dros £1m bob blwyddyn yn ein seilwaith TG ac rydyn ni’n hyderus y gallwn ni addasu, beth bynnag a ddaw yn ystod y flwyddyn nesaf.”

Er gwaethaf ansicrwydd 2020, roedd y Coleg wedi dathlu ei set gryfaf o ganlyniadau arholiadau yn ddiweddar. Ar Safon Uwch, y gyfradd basio ar raddau A*-C oedd 93%, ac ar raddau A*-A y gyfradd basio oedd 45%. Ar draws yr ystod eang o gyrsiau galwedigaethol, roedd 64% o fyfyrwyr wedi ennill o leiaf un radd Rhagoriaeth.

Mae hynny’n golygu y gall tua 1,000 o fyfyrwyr symud ymlaen i’r brifysgol ym mis Medi, gan gynnwys 11 sydd wedi cael eu derbyn gan brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt.