Ar eich beic dros Genia


Diweddarwyd 09/12/2020

Bob blwyddyn mae myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau codi arian i gefnogi Prosiect Addysg Gymunedol Cenia (PAGC) ac, er gwaethaf cyfyngiadau oherwydd y pandemig, llwyddon nhw i wneud hynny yn 2020! 

Roedd y myfyrwyr ar gampysau Gorseinon a Thycoch wedi cystadlu yn erbyn ei gilydd ar feiciau i deithio’r pellter ‘rhithwir’ o Nairobi i Sigmore i godi arian ar gyfer Ysgol Gynradd Madungu, y mae gan y Coleg gysylltiad hirsefydlog â hi. 

Cafodd y digwyddiad ei gydlynu gan fwrdd PAGC ac roedd ein myfyrwyr Gradd Sylfaen Rheoli Digwyddiadau wedi ysgwyddo cyfrifoldeb am gynllunio a darparu fel rhan o’u cwrs gradd.  

Dechreuodd y prosiect yn 2003 ac mae eu hymdrechion parhaus yn sicrhau bod pobl ifanc dan anfantais yn cael cyfleoedd i ddysgu, ennill cymwysterau a mwynhau dyfodol mwy disglair.

Hyd yn hyn, mae’r digwyddiad codi arian Ar eich beic dros Genia wedi codi swm anhygoel o £1,324 allan o’u nod o £2,000. Os hoffech roddi, ewch i’w tudalen TotalGiving: https://bit.ly/2L6mkcq 

Da iawn i bawb a gymerodd ran yn y digwyddiad codi arian eleni! 

Tags: