Skip to main content
Access student has law career in sight

Astudiaeth achos Kardo

Mae Brwa Mina, a elwir yn Kardo gan ei gydfyfyrwyr a’i ffrindiau, yn astudio Mynediad i’r Gyfraith ar hyn o bryd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.

Ac yntau wedi’i eni yn Irac, daeth Kardo i Gymru yn 2016 fel ceisiwr lloches.

“Dewises i’r cwrs hwn oherwydd mae’r gyfraith yn faes mae gen i ddiddorddeb angerddol ynddo a dwi’n dda iawn yn y pwnc,” dywedodd Kardo. “Mae’r gyfraith yn arwyddocaol ym mywyd pob dydd – y gorffennol, y presennol a’r dyfodol. Mae’n fy helpu i ennill y sgiliau hanfodol y bydd eu hangen nhw arna i yn fy ngyrfa ac yn fy mywyd gwaith. Mae’r cwrs yn ddeinamig ac yn gystadleuol sy’n gweddu i fy mhersonoliaeth uchelgeisiol.”

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi bod fel ail gartref i Kardo ac mae wedi elwa ar y cymorth ychwanegol gan ei ddarlithwyr.

Cyn penderfynu astudio’r gyfraith, fe wnaeth Kardo gwblhau cwrs L3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a chwrs cyn Safon Uwch mewn Gwyddoniaeth. Ar un adeg, roedd yn ystyried gadael y Coleg ond roedd tîm addysgu Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi dwyn perswâd arno i newid ei feddwl.

“Roedden nhw’n mynnu fy mod i’n aros i barhau â’m hastudiaethau oherwydd roedden nhw’n gallu gweld fy mhotensial,” dywedodd. “Dwi’n ddyledus iddyn nhw am hynny oherwydd roedden nhw’n credu ynddo i pan oeddwn i’n isel iawn.”

Mae Kardo hefyd wedi datblygu perthynas waith wych gyda’i diwtor Mynediad  Emma Richards, sydd wedi’i helpu gyda’i waith cwrs ac wedi rhoi hyder iddo ymestyn a bod y gorau y gall fod.

“Dwi’n ddiolchgar i Emma am lawer o’m llwyddiannau heddiw gan fod ei chymhelliant a’i chymorth wedi fy nghadw i i symud ymlaen,” dywedodd Kardo. Ychwanegodd:

“Mae bod lle rydw i nawr yn eitha anghredadwy. Dim ond plentyn oeddwn i pan wnes i ddioddef oherwydd rhyfel, rhyfel nad oedd gen i ddim byd i’w wneud ag ef a wnaeth ddwyn fy mhlentyndod oddi arna i.

“Dwi wedi defnyddio fy nhrawma o’r gorffennol fel cymhelliant i fy ngwthio i ymlaen a bod yn gryfach. Yn fy amser hamdden, dwi’n mwynhau bocsio fel hobi oherwydd dyna’r gamp wnaeth fy rhoi i ar y trywydd iawn pan oeddwn i ar goll.”

Ar ôl y Coleg, mae Kardo yn bwriadu dilyn cwrs gradd yn y gyfraith ac mae wedi cael nifer o gynigion prifysgol.

“Dwi eisiau graddio gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf a bod y cyfreithiwr masnachol gorau y galla i fod. Dwi wir yn mwynhau dadlau a chael hyd i’r dystiolaeth orau i ategu fy nadl mewn trafodaethau neu ddadleuon tîm.”

“Rydyn ni wrth ein bodd gyda’r cynnydd mae Kardo wedi’i wneud,” dywedodd Emma. “Mae e wedi cael graddau rhagoriaeth i gyd hyd yn hyn ar ei gwrs Mynediad ac mae wedi cael cynnig diamod haeddiannol gan y brifysgol o’i ddewis. Mae e’n batrwm ymddwyn eithriadol i eraill.”