Skip to main content
Athro gwrywaidd yn sefyll o flaen oedolion sy'n dysgu mewn ystafell ddosbarth

Bwrsariaeth addysgu dwyieithog ar gael i ddysgwyr Cymraeg

Fel rhan o’n nod o ddatblygu gweithlu dwyieithog a hyfforddi staff newydd i gynnig y Gymraeg i’n dysgwyr, mae’r cyfle gwych yma ar gael i chi. 

Os ydych yn siarad Cymraeg ac yn cysidro gwneud cymhwyster TAOR er mwyn cymhwyso fel tiwtor neu ddarlithydd yn y sector ôl 16, mae cyfle gwerthfawr i chi ymarfer mewnosod y Gymraeg yn y dosbarth gyda grwpiau dwyieithog.  Byddwch yn gymwys i wneud cais am y fwrsariaeth addysgu ddwyieithog gwerth £500 y flwyddyn.  

Er mwyn derbyn y cyllid mae disgwyl i chi gwblhau tasgau yn ddwyieithog a chael eich arsylwi yn y dosbarth. Mae hyfforddiant a mentora yn rhan o’r cynnig yma gan y coleg. Os oes diddordeb gennych i wybod mwy am y fwrsariaeth, cysylltwch â helen.humphreys@coleggwyrabertawe.ac.uk