Skip to main content

Canllawiau ar orchuddion wyneb

Yn dilyn y datganiad diweddar gan Lywodraeth Cymru, mae’r Coleg wedi penderfynu y bydd yn ofynnol bellach i’r holl staff, myfyrwyr ac ymwelwyr wisgo gorchuddion wyneb.

Bydd hyn yn berthnasol ym mhob ardal gymunol lle mae’n anodd cadw pellter cymdeithasol (e.e. cynteddau, grisiau neu ystafelloedd cyffredin). Bydd hefyd yn berthnasol wrth ddefnyddio bysiau’r Coleg neu fysiau cyhoeddus.

Ni ddisgwylir i orchuddion wyneb gael eu gwisgo yn yr ystafell ddosbarth gan y bydd pob myfyriwr amser llawn mewn grwpiau cyswllt unigol (swigod) a bydd pob myfyriwr rhan-amser yn cadw pellter cymdeithasol.

Er bod y Coleg yn anelu at ddarparu cyflenwad cyfyngedig o orchuddion y gellir eu hailddefnyddio, anogir myfyrwyr i ddod â’u gorchuddion eu hunain yr wythnos nesaf ar gyfer y rhaglen sefydlu.

Dywedodd y Pennaeth Mark Jones: “Cadw cymuned ein Coleg cyfan yn ddiogel yw’r brif flaenoriaeth i ni ac rydyn ni’n gobeithio eich bod yn deall pam rydyn ni wedi rhoi’r mesurau hyn ar waith.

“Pan fyddwch chi yn y Coleg, byddwn ni’n gofyn i fyfyrwyr ddilyn yr arweiniad a roddir gan eu tiwtor yn ystod eu dosbarth cyntaf. Byddwn ni hefyd yn disgwyl i chi wybod sut i wisgo gorchuddion wyneb yn ddiogel ac mewn ffordd hylan.

“Rydyn ni hefyd yn disgwyl y safonau uchaf gan ein myfyrwyr a’n staff o ran goddefgarwch a dealltwriaeth. Rydyn ni’n cofleidio pawb, gan gydnabod anghenion unigol a gallai hyn olygu nad yw rhai unigolion yn gallu gwisgo gorchuddion wyneb tra byddan nhw yn y Coleg.

“Diolch i chi am eich cydweithrediad ac rydyn ni’n edrych ymlaen at eich croesawu chi i’r Coleg yr wythnos nesaf.”

Ewch i’n tudalen we Covid-19 bwrpasol i gael rhagor o wybodaeth am ail-agor. ​