Skip to main content

Coleg Gŵyr Abertawe yn cipio dwy brif wobr prentisiaeth arall

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi ennill teitlau nodedig ‘Darparwr y Flwyddyn y DU - Prentisiaethau Digidol’ a ‘Darparwr y Flwyddyn y DU - Prentisiaethau Peirianneg a Gweithgynhyrchu’ yng Ngwobrau Prentisiaeth AAC FE Week ac AELP. Y Coleg oedd yr unig ddarparwr o Gymru i ennill gwobr a’r unig ddarparwr yn y DU i sicrhau dwy wobr yn y digwyddiad.

Yn y digwyddiad gwobrau rhithwir, a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf, cafodd y Coleg ei ganmol am ei raglenni prentisiaeth sy’n arwain y sector, ei bartneriaethau cadarn â busnesau llwyddiannus yn y DU, ac am ei allu i addasu’n rhagorol i anghenion cyflogwyr mewn byd sy’n newid yn barhaus, yn enwedig yn ystod pandemig Covid-19.

Er mwyn sicrhau’r teitl ‘Darparwr y Flwyddyn y DU - Prentisiaethau Digidol’, datblygodd y Coleg chwe chymhwyster prentisiaeth mewn cydweithrediad â busnesau Cymru. Ers hynny mae’r Coleg wedi cyflwyno cannoedd o gymwysterau digidol mewn meysydd fel dadansoddeg data, meddalwedd, cyfryngau digidol a chymdeithasol a chymorth cymwysiadau digidol - gan helpu i bontio’r bwlch sgiliau digidol yr adroddwyd yn eang arno.

Cydnabuwyd y Coleg hefyd fel ‘Darparwr y Flwyddyn y DU - Prentisiaethau Peirianneg a Gweithgynhyrchu’ am ei waith blaenllaw ym maes peirianneg electronig. Mae hyn wedi gweld myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe yn cystadlu â, ac yn curo’r cystadleuwyr gorau oedd gan Tsieina i’w cynnig – mae’r Coleg hefyd yn gweithio gyda phobl fel Henry Schein, sydd bob amser i’w weld ar restr Fortune 500 o’r cwmnïau mwyaf poblogaidd yn y byd.

Dywedodd Paul Kift, Cyfarwyddwr Sgiliau a Datblygu Busnes yng Ngholeg Gŵyr Abertawe: “Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn ymrwymedig i roi’r cyfleoedd gorau i’n prentisiaid a helpu ein cyflogwyr i ddatblygu’r dalent orau ar draws pob lefel o’u sefydliadau.”

“Rydyn ni bellach wedi ennill tair gwobr prentisiaeth y DU eleni. Mae hyn yn dyst i ymroddiad diflino fy nghydweithwyr sy’n bwriadu arwain y ffordd ym maes addysg a hyfforddiant, ymrwymiad ein dysgwyr sy’n ffynnu yn y diwydiannau strategol bwysig hyn, ac i’n partneriaid cyflogwyr am eu buddsoddiad blaengar mewn prentisiaethau - sydd o fudd sylweddol i’w busnesau. Fel erioed, hoffem estyn diolch i Lywodraeth Cymru hefyd. Ni fyddai ein gallu i ddatblygu ein darpariaeth i’r safon hon wedi bod yn bosibl heb eu cymorth nhw.”

I gael rhagor o wybodaeth am raglenni prentisiaeth y Coleg ac i wybod sut y gallwch chi elwa, cliciwch yma