Coleg Gŵyr Abertawe yn derbyn canmoliaeth gan AoC


Diweddarwyd 18/10/2019
 

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cael ei ganmol am ei arferion gorau a’i harloesed mewn tri chategori gwahanol yng Ngwobrau Beacon Cymdeithas y Colegau (AoC) 2019.

Mae Gwobrau Beacon Cymdeithas y Colegau yn gyfle i ddathlu arferion mwyaf arloesol Colegau’r DU. Cyflwynir y gwobrau yn flynyddol gan AoC er mwyn cymeradwyo ardderchowgrwydd a chydnabod doniau staff ar bob lefel. Mae’r gwobrau yn amlinellu ehangder ac ansawdd addysg yn y sector Colegau.

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cael ei gymeradwyo gan y gwobrau isod:

  • Gwobr Ryngwladol y Cyngor Prydeinig, a noddir gan y Cyngor Prydeinig, sy’n cydnabod enghraifft o waith rhyngwladol rhagorol Coleg

  • Gwobr Iechyd Meddwl a Lles Rhwydwaith y Coleg Agored Cenedlaethol (NOCN), sy’n cydnabod y gwaith pwysig y mae Colegau yn gwneud i gefnogi iechyd meddwl a lles myfyrwyr a staff

  • Gwobr Ymgysylltu â Chyflogwyr City & Guilds, sy’n cydnabod arferion rhagorol o ran diwallu / ymateb i anghenion cyflogwyr.

“Mae Gwobrau Beacon AoC yn arddangos yn union pam mae Colegau mor bwysig i bob cymuned a pham mae pobl yn eu gwerthfawrogi,” meddai David Hughes, Prif Weithredwr AoC. “Mae’r gwobrau yn cydnabod yr ymroddiad anferthol a’r cymorth y mae Colegau yn eu cynnig i bobl ifanc a dysgwyr sy’n oedolion. Bob blwyddyn mae Colegau yn arddangos y lefelau uchaf o ran arloesed ac arferion gorau - nid yw eleni’n wahanol i’r drefn. Llongyfarchiadau i bob Coleg sydd wedi bodloni Safonau Beacon AoC a phob lwc i bawb sy’n symud ymlaen i Gam 2.”

DIWEDD

Cymdeithas y Colegau (AoC) – www.aoc.co.uk