Skip to main content
Coleg yn cadw statws Platinwm

Coleg yn cadw statws Platinwm

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cadw ei statws Partner Dysgu Cymeradwy Platinwm ACCA ar ôl pum mlynedd o ddarpariaeth ymroddedig.

Ar hyn o bryd, ni yw’r unig goleg addysg bellach yn y DU i gael y statws hwn, y mae mawr alw amdano, gan Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig, o ganlyniad i’r hyfforddiant a’r cymorth o safon a ddarperir i’n myfyrwyr cyfrifeg.

“O ganlyniad i arolygiad llwyddiannus yn ôl ym mis Mai, dyn ni’n falch dros ben ein bod ni wedi cadw ein statws Platinwm,” dywedodd yr Arweinydd Cwricwlwm Paul Sizer. “Mae hyn mewn gwirionedd yn dyst i ymrwymiad a gwaith caled y tîm addysgu cyfan, ein staff cymorth estynedig ac, wrth gwrs, ymdrechion ein myfyrwyr.”

Yn y llun o’r chwith i’r dde: Deon Cyfadran Nick Brazil; Pennaeth Mark Jones; Pennaeth ACCA Cymru Lloyd Powell; Arweinydd Cwricwlwm Paul Sizer a Rheolwr Maes Dysgu Bruce Fellowes

https://www.gcs.ac.uk/cy/business-accountancy-and-law#!pnl_all