Coleg yn cipio dwy Wobr Prentisiaeth AAC


Diweddarwyd 05/04/2019

Enillodd Coleg Gŵyr Abertawe ddwy wobr yng Ngwobrau Prentisiaeth AAC yn ddiweddar yn Birmingham.

Mae hwn yn gyflawniad anhygoel, oherwydd cafwyd cyfanswm o fwy na 350 o gofrestriadau o golegau, darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr yn y DU ar gyfer y digwyddiad nodedig hwn, a drefnwyd gan Wythnos AB a Chymdeithas Darparwyr Addysg a Dysgu.

Roedd Coleg Gŵyr Abertawe - yr unig un o Gymru yn y rownd derfynol - wedi cyrraedd y rhestr fer mewn dau gategori - ac enillodd y Coleg y ddau deitl.

Y wobr gyntaf oedd ar gyfer Darparwr Prentisiaeth Iechyd a Gwyddoniaeth y Flwyddyn, a roddwyd i gydnabod datblygiad a darpariaeth llwybr prentisiaeth arloesol ar gyfer technegwyr labordy a gwyddoniaeth, gan weithio ochr yn ochr â chyflogwyr rhyngwladol pwysig megis Tata Steel a Vale Europe.

"Rydyn ni bob amser wedi teimlo ein bod ni’n sefyll allan o ran datblygu prentisiaid ‘y tu hwnt i’r maes llafur’ er mwyn ateb anghenion ein cyflogwyr, ac felly mae ennill y wobr hon yn gadarnhad gwych o’r strategaeth honno,” dywedodd y Cyfarwyddwr Sgiliau a Datblygu Busnes, Paul Kift.

Ail lwyddiant y noson oedd yn y categori Cyfraniad Rhagorol at Ddatblygiad Prentisiaethau ac enillodd Arweinydd Cwricwlwm Peirianneg Electronig, Steve Williams yr anrhydedd hwnnw. Yn ystod ei yrfa o 30 mlynedd, mae wedi parhau i dynnu sylw dysgwyr a chyflogwyr at fanteision prentisiaethau.

“Mae Steve yn llysgennad gwych dros Goleg Gŵyr Abertawe a dros y sector cyfan,” dywedodd Paul. “Mae wedi gweithio’n ddiflino i godi proffil y Coleg a phrentisiaethau ac mae wedi bod yn fodel rôl hynod bwysig a chefnogol i genedlaethau o ddysgwyr.

“Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi ennill y ddwy wobr ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddatblygu a gwella ymhellach ein cynnig prentisiaethau yn y dyfodol, gan weithio’n agos gyda’n partneriaid ym myd diwydiant i ddarparu’r doniau sydd eu hangen yn sylweddol.”

Tags: