Skip to main content
Dydd Miwsig Cymru

Coleg yn cynnal Dydd Miwsig Cymru

Mi oedd campysau Coleg Gŵyr Abertawe dan ei sang yr wythnos diwethaf wrth i ni ddathlu Dydd Miwsig Cymru – diwrnod cenedlaethol wedi’i sefydlu er mwyn dathlu cerddoriaeth gyfoes Cymraeg.    

Bu prosiect ar y cyd rhwng y Coleg, Menter Abertawe â Llywodraeth Cymru yn golygu bod yr artistiaid Cymraeg Mellt, Mali Haf, Dafydd Mills, Mei Gwynedd a Parisa Fouladi yn chwarae ar ein llwyfannau ar gampws Tycoch, Gorseinon a Llwyn y Bryn.  

Nod yr wythnos oedd codi ymwybyddiaeth ymysg ein myfyrwyr o’r amrywiaeth mewn cerddoriaeth Gymraeg.  

“Mae’n wych cael wythnos fel hyn sy’n dathlu cerddoriaeth gyfoes yn yr iaith Gymraeg,” meddai Anna Davies ein Rheolwr Cymraeg. “Mae’n rhoi cyfle i’n myfyrwyr wrando a chael eu cyflwyno i gerddoriaeth na fyddent efallai wedi dod ar ei thraws o’r blaen.  Profodd i fod yn wythnos lwyddiannus, ac mi oedd yn bleser gweld myfyrwyr Cymraeg a di-Gymraeg yn mwynhau gwrando a chael eu symud gan gerddoriaeth Gymraeg ei hiaith.  Y gobaith yw bydd diwrnod fel hyn yn sbardun i ddatblygiadau Cymraeg eraill yn y Coleg.”  

Diolch i’r Llywodraeth a Menter Abertawe am drefnu, ac i Tinopolis am ddod i ffilmio ar gyfer eu rhaglen Heno ar S4C. Bu sawl myfyriwr yn rhan o raglen Heno nos Fawrth (7fed Chwefror 7pm) - Rhys David Cole, Alissa Luckett, Evan Hill Howard a Rhys Cole.  Mi ydym yn falch iawn o’u cyfraniad.

#DyddMiwsigCymru