Skip to main content

Creu 3,000 o brentisiaid newydd yn Ninas-Ranbarth Bae Abertawe

Mae Gweinidog Llywodraeth y DU dros Gymru David TC Davies wedi cwrdd â phobl ifanc sydd ar fin elwa ar fenter newydd gwerth £30m i ddarparu cyfleoedd hyfforddi a datblygu.

Yn dilyn cymeradwyaeth Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru o raglen Sgiliau a Thalent Bargen Dinas Bae Abertawe, cyfarfu’r Gweinidog Davies â myfyrwyr ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Choleg Gŵyr Abertawe i glywed sut y bydd o fudd i bobl ifanc ledled Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Sir Abertawe, a Chastell-nedd Port Talbot.

Bydd y rhaglen yn rhoi cyfleoedd i filoedd o bobl a busnesau ledled Rhanbarth Bae Abertawe i gael mynediad at sgiliau a hyfforddiant, gan ganolbwyntio ar ddiwydiannau lle mae galw mawr am weithwyr. Gan weithio mewn partneriaeth â darparwyr hyfforddiant fel awdurdodau lleol, ysgolion, colegau, prifysgolion a busnesau, bydd y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol yn arwain y gwaith o gyflwyno’r rhaglen i nodi sgiliau, dod o hyd i atebion hyfforddi a datblygu prosiectau addysg a hyfforddiant i fodloni’r gofynion hyn.

Cyngor Sir Gaerfyrddin yw’r Awdurdod Lleol arweiniol sy’n gyfrifol am y rhaglen a fydd o fudd i holl Ddinas-Ranbarth Bae Abertawe. Bydd y rhaglen yn creu o leiaf 3,000 o brentisiaethau newydd ac yn darparu 2,200 o gyfleoedd datblygu ychwanegol yn ogystal â chreu canolfannau rhagoriaeth o fewn sectorau gan gynnwys digidol, ynni, adeiladu a lles.

Yn ystod yr ymweliad â Choleg Gŵyr Abertawe, cyfarfu’r Gweinidog Davies â phrentisiaid sy’n gweithio gydag EV Wales yn dysgu gosod pwyntiau gwefru ceir trydan. Treuliodd amser hefyd yn dysgu am waith Elite Aerial Services ac yn siarad â’u prentisiaid am weithio gyda robotiaid mewn seilwaith ffeibr a chyfathrebu.

Ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, cyfarfu’r Gweinidog Davies hefyd â myfyrwyr o Ysgolion Cyfun Ysgol Bro Myrddin ac Ysgol Maes y Gwendraeth sydd eisoes yn elwa ar brosiect peilot, a fydd yn cael ei gyflwyno’n fwy eang yn y dyfodol. Roedd y myfyrwyr, sydd ar hyn o bryd yn dilyn BTEC Lefel 2 a 3 mewn Peirianneg, yn gallu dangos eu sgiliau gan ddefnyddio’r cyfleusterau yn y brifysgol. Sefydlwyd y cynllun peilot i annog darparwyr hyfforddiant yn y rhanbarth i gyfnewid arbenigedd ac adnoddau.

Dywedodd David TC Davies, Gweinidog Llywodraeth y DU dros Gymru:

“Dwi’n falch iawn o gwrdd â’r bobl ifanc sydd ar fin elwa ar y rhaglen Sgiliau a Thalent gwerth £30 miliwn a chlywed eu cynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol.

“Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd datblygu ardderchog i bobl yng Nghymru a helpu cwmnïau i gadw talentau lleol. Dwi’n edrych ymlaen at weld pobl ledled de-orllewin Cymru yn bachu ar y cyfleoedd hyn i ddatblygu eu sgiliau a symud i swyddi â chyflog da mewn sectorau sy’n tyfu fel peirianneg, ynni adnewyddadwy ac arloesi digidol.”

Dywedodd Barry Liles OBE, Uwch Berchennog Cyfrifol y rhaglen Sgiliau a Thalent a Dirprwy Is-Ganghellor (Sgiliau a Dysgu Gydol Oes) ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant: “Bydd llwyddo i sicrhau’r cyllid ar gyfer y fenter sgiliau a thalent yn drawsnewidiol ar gyfer y rhanbarth a bydd yn gadael etifeddiaeth sylweddol o alwedigaethau sgiliau lefel uchel a llwybrau gyrfa wedi’u diffinio’n glir i bobl ifanc. Mae’r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol yn gydweithrediad aeddfed a phrofedig o ddarparwyr a fydd yn cefnogi anghenion prosiectau y Fargen Ddinesig a byddan nhw hefyd yn cyfeirio unigolion at gyflogaeth gynaliadwy.”

Ychwanegodd Dr Llinos Jones, Pennaeth Ysgol Bro Myrddin, a Wyn Evans, Pennaeth Ysgol Maes y Gwendraeth y mae eu disgyblion wedi cymryd rhan mewn cynllun peilot prentisiaeth “Rydyn ni, fel dwy ysgol yn y rhanbarth, yn falch iawn o fod yn rhan o Raglen Sgiliau a Thalent Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Nod y rhaglen yw darparu ateb rhanbarthol i nodi a darparu’r sgiliau a’r hyfforddiant sydd eu hangen ar gyfer prosiectau’r Fargen Ddinesig. Bydd y buddsoddiad hwn yn rhoi modd i ysgolion fel ein hysgol ni i ddatblygu cyrsiau a fydd yn y pen draw yn cefnogi prosiectau a phobl ledled y rhanbarth. Trwy’r rhaglen rydyn ni wedi datblygu llwybr dysgu cyfrwng Cymraeg mewn Peirianneg a TG ar gyfer dros 120 o ddisgyblion ym mlwyddyn un.”

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin “Rydyn ni’n falch iawn o groesawu’r Gweinidog i’r rhanbarth ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gyflwyno’r rhaglen Sgiliau a Thalent yn dilyn llwyddiant ein cynllun peilot. Mae’r gymeradwyaeth hon yn bwysig iawn i ni fel y gallwn ni ddarparu atebion addysg a hyfforddiant i bobl ifanc ddysgu a chael gwaith yn lleol.

 “Bydd y rhaglen hon, ynghyd â rhannau eraill o bortffolio’r Fargen Ddinesig yn helpu i godi proffil y rhanbarth cyfan trwy ddenu buddsoddiad mewnol, ac ynghyd â chreu unigolion medrus iawn, bydd yn sicrhau bod De-orllewin Cymru yn lle perffaith i fyw a gweithio am genedlaethau i ddod.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe, “Bydd ymweliad y Gweinidog Davies yn helpu i godi proffil rhaglen Sgiliau a Thalent y Fargen Ddinesig ymhellach. Mae’r rhaglen hon yn allweddol i bortffolio buddsoddi’r Fargen Ddinesig gyffredinol gan y bydd yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen ar filoedd o bobl leol i gael swyddi â chyflog da sy’n cael eu creu gan brosiectau eraill y Fargen Ddinesig yn y blynyddoedd i ddod.

“Mae llawer o brosiectau eraill y Fargen Ddinesig eisoes yn cael eu cyflawni, ac mae disgwyl i’r buddsoddiad chwarae rhan allweddol wrth gyflymu ein hadferiad economaidd rhanbarthol ar ôl y pandemig.

“Mae wyth o’i naw rhaglen a phrosiect bellach wedi cael eu cymeradwyo, ac felly mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe mewn sefyllfa gref iawn i fod o fudd pellach i gynifer o drigolion a busnesau rhanbarthol yn y dyfodol agos.”

Dywedodd Mark Jones, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe: “Rydyn ni’n falch iawn o groesawu’r Gweinidog Davies a swyddogion y fargen Ddinesig i’r Coleg heddiw. Dros nifer o flynyddoedd rydyn ni wedi bod yn paratoi ar gyfer y Fargen Ddinesig trwy fuddsoddi mewn datblygu cwricwlwm arloesol i fodloni gofynion allweddol y Fargen Ddinesig. Mewn partneriaeth â diwydiant rydyn ni wedi datblygu rhaglenni newydd ym maes digidol, ynni gwyrdd, gweithgynhyrchu uwch ac iechyd a gofal cymdeithasol, sydd wedi arwain at gynnydd o 25% yn nifer y prentisiaid rydyn ni’n eu cefnogi yn y meysydd hyn. Yn 2021-22 rydyn ni’n bwriadu cefnogi dros 3,500 o brentisiaid gan gynnwys 2,200 o brentisiaid sy’n datblygu sgiliau yn sectorau allweddol y Fargen Ddinesig.”