Croesawu siaradwyr Cymraeg i’r Coleg


Diweddarwyd 02/09/2022

Cynhaliwyd Diwrnod Croeso yng Ngholeg Gwyr Abertawe i’r bobl ifanc hynny sy’n siarad Cymraeg ac sy’n ymuno efo ni fis Medi.  Bwriad y diwrnod yma oedd croesawu myfyrwyr i un o gampysau’r coleg fel eu bod yn dod i nabod y lleoliad, cwrdd a siaradwyr Cymraeg eraill, cwrdd a rhai o’n staff cyfrwng Cymraeg, a dysgu am y cyfleoedd sydd ar gael iddynt yn y Gymraeg yn y Coleg. 

Bu sesiwn gan darlithydd Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus cyfrwng Cymraeg Wayne Price, Ed Holden aka Mr Phormula rapiwr a bîtbocsiwr penigamp, Golff Gwalltgof, sesiwn ioga a meddylgarwch gyda Laura Karadog, gweithdy TikTok Cymraeg gyda Bethany Davies, ac i orffen sgwrs gyda’r cyflwynydd Hansh, Ameer Davies-Rana.  Cafwyd llawer o hwyl gyda amrywiaeth dda o weithgareddau. 

“Roeddem yn hapus iawn gyda’r ymateb i’r diwrnod hwn, gan ei fod yn dangos bod diddordeb ymysg pobl ifanc i ddefnyddio eu Cymraeg ,” medd Anna, Rheolwr y Gymraeg.  “Roedd yn gyfle gwych i ddarpar fyfyrwyr gwrdd â phobl ifanc eraill ar draws yr ardal, a’u paratoi at gychwyn yn y coleg fis Medi.  Roedd ganddynt i gyd un peth yn gyffredin, a hynny oedd eu bod i gyd a’r sgil unigryw hynny o fedru siarad y Gymraeg.”   

“Pwrpas y diwrnod oedd dod a phawb at ei gilydd, a chodi ymwybyddiaeth am werth y sgil honno, yn y gobaith na fyddent yn anghofio’u Cymraeg yma yn y coleg.  Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’r holl staff a helpodd gyda’r diwrnod a sicrhau bod popeth yn rhedeg yn llyfn.  Gobeithio fydd hwn yn ddigwyddiad blynyddol ar galendr y coleg, ac rywbeth i ddarpar fyfyrwyr edrych ymlaen ato.”

Tags: