Skip to main content
Two women smiling at camera / Dwy fenyw yn gwenu ar y camera

Cwrs mynediad yn agor y drws i addysg uwch

Mae meddwl am ddychwelyd i fyd addysg ar ôl saib yn gallu bod yn ddychrynllyd ar y dechrau. Ond mae mwy a mwy o oedolion yn dychwelyd i’r ystafell ddosbarth i ddiweddaru eu sgiliau a rhoi hwb i’w rhagolygon gyrfa.

Dewisodd Cherene Napier astudio Mynediad i Fusnes a Gwasanaethau Ariannol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, cwrs a fyddai, yn ei barn hi, yn ei helpu i gael cyfleoedd cyflogaeth mewn sefydliadau mwy o faint gyda mwy o botensial ar gyfer twf.

“Y peth gorau am y cwrs oedd y cyfle a gefais i ailddysgu pynciau nad oedd gen i gymaint o ddiddordeb ynddyn nhw pan oeddwn i’n fyfyriwr iau,” meddai Cherene. “Cefais i fwy o fwynhad yn eu hastudio y tro ‘ma. Hefyd, roedd yr holl bynciau newydd roedden ni’n eu hastudio yn yr ystafell ddosbarth yn rhoi sgiliau i mi ac roeddwn i’n gwybod y gallwn i roi’r sgiliau hynny ar waith mewn amgylchedd gwaith go iawn.

“Roedd y cymorth a gefais i gan fy nhiwtoriaid yn wych ac roedd e wir wedi fy ngwthio i roi mwy i’r cwrs nag oeddwn i’n feddwl. Doedd hi ddim yn rhwydd – gweithio yn rhan-amser a bod yn fam i ddau blentyn bach – ond defnyddiais i fy sgiliau rheoli amser i gwblhau’r cwrs.”

Ar hyn o bryd mae Cherene yn astudio’r cwrs HND Busnes a Rheoli yn y Coleg ac wedyn mae hi’n bwriadu dilyn yr opsiwn BA (Anrh) Ychwanegol i gael y radd lawn. Ar ôl hynny, hoffai  ddilyn galwedigaeth ym maes datblygu busnes.

Roedd penderfynu cofrestru ar gwrs Mynediad yn drobwynt mawr i Cherene, un y byddai hi’n ei argymell i unrhyw un arall mewn sefyllfa debyg.

“Gadawais i’r ysgol yn 16 oed, doeddwn i ddim wedi mwynhau fy addysg, ond mae astudio Mynediad yn y Coleg wedi dangos i mi mai’r hyn sy’n rhoi hyder i chi lwyddo yw’r ffordd rydych chi’n cael eich annog a’ch addysgu.”

Cofrestrodd Carla Davies ar y cwrs Mynediad i Fusnes a Gwasanaethau Ariannol hefyd.

Ar ôl cwblhau rhaglen Sgiliau ar gyfer Astudiaethau Pellach cyn-Fynediad, dewisodd Carla y cwrs Mynediad oherwydd roedd hi’n awyddus i ddysgu pob agwedd ar fusnes, gyda golwg ar ddechrau ei busnes ei hun ryw ddiwrnod.

“Wnes i wir fwynhau’r modiwlau cyllid ac roeddwn i wrth fy modd yn gweld fy hun yn magu hyder wrth astudio yn y Coleg,” meddai Carla. “Roedd fy narlithwyr mor gymwynasgar gydag unrhyw broblemau neu bryderon oedd gyda fi, ac mae’r system gymorth sydd ar waith yn anhygoel – cefais fy arwain i’r cyfeiriad cywir a derbyn y cymorth oedd ei angen arna i.”

Mae Carla hefyd wedi symud ymlaen i’r cwrs HND Busnes a Rheoli yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti ac mae hi ar fin gorffen ei blwyddyn gyntaf.

“Fy nghyngor i oedolion sy’n ddysgwyr fyddai ewch amdani!” ychwanegodd. “Penderfynais i ddychwelyd i addysg amser llawn oherwydd roeddwn i eisiau gwneud dyfodol gwell i mi a’m teulu a dyna’r penderfyniad gorau dwi erioed wedi ei wneud. Mae Coleg Gŵyr Abertawe mor ystyriol a chefnogol, fyddwn i ddim wedi dymuno mynd i unrhyw brifysgol neu goleg arall.”

“Mae clywed straeon fel rhai Cherene a Carla wir yn ysbrydoledig, yn enwedig pan maen nhw’n sôn am y gefnogaeth maen nhw wedi’i chael yn y Coleg,” dywedodd y Rheolwr Maes Dysgu Darren Fountain. “Dwi wrth fy modd bod y ddau bellach wedi symud ymlaen i gyrsiau Addysg Uwch gyda ni a dwi’n edrych ymlaen at weld beth byddan nhw’n ei wneud nesa’ yn eu gyrfaoedd.”