Skip to main content
Cyfyngiadau lleol wedi’u cyhoeddi ar gyfer Abertawe, beth mae hyn yn ei olygu i’r Coleg?

Cyfyngiadau lleol wedi’u cyhoeddi ar gyfer Abertawe, beth mae hyn yn ei olygu i’r Coleg?

Yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru heddiw (25 Medi), bydd cyfyngiadau lleol yn dod i rym ar gyfer Abertawe o 6pm, 27 Medi.

Mae staff a myfyrwyr yn gallu parhau i deithio yn ac allan o’r ardaloedd cyfyngedig er mwyn mynychu’r Coleg, ar yr amod:

  • Nad ydynt yn arddangos unrhyw symptomau Covid-19: twymyn uchel, peswch parhaus, colli neu newid i synnwyr arogli a blasu
  • Na ofynnwyd iddynt hunan-ynysu
  • Eu bod yn cadw at yr holl fesurau iechyd a diogelwch sydd wedi’u rhoi ar waith gan y Coleg. Gwyliwch y fideo hwn i gael manylion llawn y mesurau.

Bydd bysiau contract y Coleg yn parhau i weithredu yn ôl yr arfer, a bydd rhaid i fyfyrwyr wisgo gorchudd wyneb wrth deithio.

Rhaid i staff, myfyrwyr ac ymwelwyr barhau i wisgo gorchudd wyneb mewn unrhyw le cymunol y tu mewn tra byddant ar y campws. Mae rhagor o wybodaeth am orchuddion wyneb i’w gweld yma ​

I gael rhagor o wybodaeth am y cyfyngiadau lleol, ewch i wefan Llywodraeth Cymru. 

Cyfnod clo ardal Cyngor Abertawe: cwestiynau cyffredin