Skip to main content
Dysgwyr yn llyfrgell Campws Tycoch

Cyrsiau Mynediad i Addysg Uwch: agor llwybrau i addysg a llwyddiant gyrfa

Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, rydym yn falch o ddarparu amrywiaeth cynhwysfawr o gyrsiau Mynediad i Addysg Uwch (AU), gyda’r nod o rymuso unigolion 19 oed a hŷn gyda’r sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen ar gyfer mynediad llwyddiannus i addysg uwch. P’un ai ydych yn ceisio dychwelyd i addysg ar ôl cael saib neu’n ystyried dechrau llwybr gyrfa newydd, mae ein cyrsiau Mynediad yn darparu’r sylfaen ddelfrydol ar gyfer eich taith addysgol!

Dysgu rhagor

Gwneud cais nawr!

Nodweddion allweddol ein Cyrsiau Mynediad i AU:

  • Cydnabyddir hwy ar draws y wlad: Mae ein cyrsiau Mynediad i Addysg Uwch yn rhan o’r rhaglen Mynediad i Addysg Uwch Cymru-gyfan, a gydnabyddir gan brifysgolion a sefydliadau addysg uwch ledled Cymru a Lloegr.
  • Wedi’u teilwra i ddysgwyr sy’n oedolion: Wedi’u hanelu at fyfyrwyr hŷn o amrywiaeth o gefndiroedd addysgol, mae ein cyrsiau Mynediad yn darparu ar gyfer myfyrwyr hŷn sydd efallai heb gymwysterau traddodiadol neu addysg ffurfiol. Rydym hefyd yn deall bod amgylchiadau bywyd yn gallu amrywio, a dylai’r rhan fwyaf o amserlenni cyrsiau roi modd i chi gydbwyso’ch gweithgareddau addysgol ag ymrwymiadau teuluol ac eraill. 
  • Pynciau amrywiol: Rydym yn cynnig amrywiaeth helaeth o gyrsiau Mynediad, gan roi cyfleoedd ar gyfer diddordebau a dyheadau gyrfa amrywiol!

Pa gwrs Mynediad sy’n addas i’ch nodau gyrfa? Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gynnig cyrsiau yn y pynciau canlynol:

Dyma Jodie! Mae hi'n astudio Mynediad i Waith Cymdeithasol yng Ngholeg Gwyr Abertawe

“Cyn dechrau cwrs Mynediad, roeddwn i’n gweithio ym maes gofal plant. Dewisais i astudio’r cwrs Mynediad i Waith Cymdeithasol oherwydd roeddwn i’n chwilio am rywbeth gwahanol yn fy ngyrfa, rhywbeth lle gallwn i symud ymlaen i gwrs gradd prifysgol. Dwi’n mwynhau pob agwedd ar y cwrs: dysgu pynciau newydd bob dydd a’r holl fodiwlau gwahanol rydyn ni’n eu hastudio, ond yn enwedig cymdeithaseg! Mae’r holl ddarlithwyr yn y Coleg yn gefnogol iawn a bob amser wrth law pryd bynnag mae angen cymorth arnon ni. Pan fydda i’n cwblhau’r cwrs, dwi’n bwriadu mynd i Brifysgol Metropolitan Caerdydd, lle bydda i’n cael gradd gobeithio cyn symud ymlaen i yrfa mewn gwaith cymdeithasol. Byddwn i’n argymell y cwrs hwn i bawb, yn enwedig os ydych chi eisiau newid gyrfa.” 

- Jodie, Mynediad i Waith Cymdeithasol

Dyma Bim! Mae e'n astudio Mynediad i Nyrsio yng Ngholeg Gwyr Abertawe

“Dwi’n astudio Mynediad i Nyrsio, sy’n wych! Mae’n heriol iawn ac mae’n braf dysgu pethau newydd. Mae’r tiwtoriaid yn gymwynasgar iawn, rydyn ni’n gwneud pethau gwych yma ac mae’n amgylchedd cyfeillgar. Ar ôl i mi orffen y cwrs hwn, dwi’n bwriadu gweithio yn un o’r ysbytai yma yng Nghymru, efallai mewn ward feddygol. Dwi’n argymell y cwrs hwn i unrhyw un a hoffai astudio nyrsio.” 

- Bim, Mynediad i Nyrsio

Rydym hefyd yn deall efallai y bydd angen cymorth ychwanegol ac amser paratoi ar rai myfyrwyr cyn dilyn y rhaglenni Mynediad i AU. 

I’r myfyrwyr hynny, rydym yn cynnig cwrs Paratoi i Ddysgu rhan-amser chwe wythnos sy’n rhoi’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen er mwyn cwblhau aseiniadau’n llwyddiannus ar lefel uwch. Rydym hefyd yn cynnig y cwrs blwyddyn, amser llawn Diploma Sgiliau ar gyfer Astudiaethau Pellach sy’n mynd i’r afael ag anghenion llythrennedd a rhifedd sylfaenol ac yn rhoi hwb i’ch hyder. Mae’r ddau gwrs yn gallu bod yn gam tuag at raglenni Mynediad i AU.

Felly, beth sydd nesaf? Paratoi i gychwyn ar daith academaidd fuddiol sy’n cyd-fynd â’ch diddordebau a’ch nodau ar gyfer y dyfodol. Dechreuwch eich taith drwy ddysgu rhagor a gwneud cais heddiw!

Dysgu rhagor

Gwneud cais nawr!