Skip to main content
Dathlu ar y cyd i fyfyrwyr AU y Coleg

Dathlu ar y cyd i fyfyrwyr AU y Coleg

Mae gan Lauren Pritchard ac Atlanta Coates, myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe, ddau reswm gwych i ddathlu’r Haf hwn.

Mae’r ddwy wedi ennill Gradd Dosbarth Cyntaf (BA) mewn Rheoli Busnes (Cyfrifeg), sef cwrs a gynigir gan y Coleg mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru. Yn ogystal â hyn, maent wedi sicrhau rolau gwych gyda Bevan Buckland LLP.

Cwblhaodd Lauren gwrs HND mewn Busnes a Chyfrifeg yn y Coleg ar ôl symud ymlaen i astudio cwrs BA ychwanegol, i geisio sicrhau gyrfa fel cyfrifydd. Cyn hynny fe astudiodd hi gyrsiau Safon Uwch mewn busnes, cyfrifeg ac economeg ar Gampws Gorseinon.

“Roedd y gefnogaeth a dderbyniais gan fy narlithwyr ar y cyrsiau HND a BA yn anhygoel. Roedd llawer ohonynt wedi fy narlithio pan oeddwn i’n astudio cyrsiau addysg uwch. Roedd y dosbarthiadau llai yn golygu bod mwy o gymorth ar gael,” meddai Lauren.

Diolch i raglen Gyflogadwyedd y Coleg, Gwell Swyddi, gwell Dyfodol, mae Lauren bellach wedi sicrhau rôl gyfrifeg i raddedigion yn Bevan Buckland LLP. Bydd hi’n dechrau ym mis Medi.


“Byddwn yn bendant yn argymell cyrsiau AU Coleg Gŵyr Abertawe.” Ychwanega Lauren. “Mae’r cymorth a dderbyniais yn ystod y tair blynedd wedi bod yn anhygoel ac wedi fy helpu’n fawr i sicrhau gradd dosbarth cyntaf.”

Cyn astudio cwrs BA, roedd Atlanta’n astudio busnes, cyfrifeg a mathemateg ar gampws Gorseinon.

“Ro’n i wir yn hoffi dosbarthiadau gradd bach Coleg Gŵyr Abertawe oherwydd roedd yn hawdd siarad â phobl,” meddai. “Byddwn yn sicr yn argymell eu Canolfan Prifysgol i unrhyw un sy’n hoff o ddosbarthiadau llai, agos atoch neu unigolion sydd am gael mynediad hawdd at gymorth. Dw i’n gyffrous i ddechrau fy ngyrfa fel cyfrifydd dan hyfforddiant ym mis Medi!”