Skip to main content

Diweddariad gan y Pennaeth, Mark Jones (25 Mawrth)

Rydym yn falch iawn o adrodd, o ddydd Llun 12 Ebrill, y bydd pob myfyriwr yn cael ei wahodd i ddychwelyd i’r Coleg ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb yn yr un ffordd ag yr oeddem yn gallu gweithredu yn y tymor cyntaf (o fis Medi i ddechrau mis Rhagfyr).

Y ffocws yn ystod yr wythnosau hyn fydd dal i fyny ar unrhyw waith sy’n weddill, gan gynnwys datblygu sgiliau a pharatoi ein myfyrwyr ar gyfer eu hasesiadau diwedd blwyddyn ar ba bynnag ffurf y cytunwyd arni gan y cyrff arholi.

Byddwn hefyd yn achub ar y cyfle i ddelio ag unrhyw faterion sy’n ymwneud â myfyrwyr a TG ynghyd â thrafod opsiynau ar gyfer dilyniant - yn unol â’n Gwarant Coleg Gŵyr Abertawe.

Amserlenni
Bydd myfyrwyr yn dilyn yn union yr un amserlen ag yr oedd ganddynt ym mis Medi. Os nad ydych yn siŵr am eich amserlen, gallwch edrych ar eich ap e-LIP neu gysylltu â’ch tiwtor.

Cludiant
ydd myfyrwyr sy’n teithio i Gampws Gorseinon yn gallu defnyddio bysiau’r Coleg fel arfer, er bod  rhaid gwisgo gorchuddion wyneb bob amser. Os oes angen i chi wirio’ch llwybr bws, e-bostiwch studentfunding@gcs.ac.uk.

Mae cludiant cyhoeddus trwy First Cymru eisoes ar waith ar gyfer myfyrwyr sy’n teithio i gampysau Tycoch, Llwyn y Bryn neu Lys Jiwbilî. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cynllunio’ch taith ymlaen llaw.

Swigod dosbarth
Bydd swigod dosbarth yn dychwelyd ar gyfer yr holl fyfyrwyr amser llawn. Mae hyn yn golygu y byddwch chi’n gallu cael egwyl gyda’r myfyrwyr hynny sydd yn yr un swigen â chi. Sylwch: bydd angen i chi gadw pellter dau fetr oddi wrth unrhyw un y tu allan i’ch swigen dosbarth. Mae hyn yn cynnwys eich darlithwyr.

Ni fydd swigod dosbarth yn berthnasol i fyfyrwyr rhan-amser, prentisiaid na myfyrwyr addysg uwch. Bydd angen i’r myfyrwyr hyn barhau â chadw pellter cymdeithasol dau fetr oddi wrth bawb bob amser.

Gorchuddion wyneb
Bydd gofyn i bob myfyriwr wisgo gorchudd wyneb bob amser (ar wahân i unrhyw un sydd ag eithriad) - mae hyn yn cynnwys ar gludiant i’r Coleg ac oddi yno, mewn ystafelloedd dosbarth, ym mhob ystafell gyffredin, y tu allan ar dir y campws ac wrth ddefnyddio’r cyfleusterau toiled.

Golchi a diheintio dwylo
Bydd angen i bob myfyriwr ddiheintio ei ddwylo wrth gyrraedd y Coleg a thrwy gydol y dydd gan ddefnyddio’r gorsafoedd diheintio. Mae’r rhain wedi’u lleoli o gwmpas y campysau ac ym mhob ystafell ddosbarth.

Awyru
Byddwn yn sicrhau bod digon o awyr iach yn cylchredeg ym mhob ystafell ddosbarth, trwy gadw drysau a ffenestri ar agor lle bynnag y bo modd.

Profion llif unffordd
Bydd pob myfyriwr yn cael cynnig pecyn pedair wythnos o gitiau profi llif unffordd cartref ar ôl dychwelyd i’r Coleg. Nid yw’r citiau profi llif unffordd yn orfodol ac nid yw’n ofynnol i fyfyrwyr gymryd  a defnyddio'r profion cartref er mwyn dychwelyd i'r Coleg.

Arlwyo
Bydd ein siopau arlwyo ar agor ar gyfer gwasanaeth bachu a mynd gan gynnig lluniaeth fel brechdanau, creision, melysion a diodydd.

Rydym yn llwyr werthfawrogi y bu’r flwyddyn hon yn un ansicr a heriol unwaith eto, ond rydym wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau bod cymuned gyfan y Coleg yn teimlo’n ddiogel pan ddychwelwn ar ôl y Pasg.

Helpwch ni i’ch helpu chi a dilyn y canllawiau sydd gennym ar waith. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, siaradwch â’ch tiwtor.

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu yn ôl ar ôl gwyliau’r Pasg.

Mark Jones
Pennaeth