Skip to main content

Diweddariad pwysig: graddio arholiadau TGAU, Safon UG a Safon Uwch 2021

Yn ddiweddar (dydd Mercher 20 Ionawr), mae’r Gweinidog Addysg yng Nghymru wedi gwneud cyhoeddiad ynghylch graddio cymwysterau TGAU, Safon UG a Safon Uwch yn 2021.

Fel Coleg rydym nawr yn aros am ragor o fanylion gan y cyrff dyfarnu a byddwn yn cysylltu â’n holl fyfyrwyr maes o law i amlinellu sut y byddwn yn datblygu cynlluniau a phrosesau asesu ar gyfer penderfynu graddau terfynol.

Rydym hefyd yn gofyn am fwy o eglurder yngylch sut y bydd cymwysterau galwedigaethol yn cael eu graddio a’u hasesu. Pan fydd gennym fwy o wybodaeth am hyn, byddwn yn ei rhannu gyda chi.

Darllen y datganiad llawn yma.​

Darllen llythyr at fyfyrwyr gan Gymwysterau Cymru yma.