Skip to main content
Diwrnod blasu nyrsio a bydwragedd

Diwrnod blasu nyrsio a bydwragedd

Yn dilyn llwyddiant y coleg wrth ennill arian prosiect gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, bu myfyrwyr â diddordeb mewn astudio nyrsio, bydwreigiaeth a gwaith cymdeithasol drwy gyfrwng y Gymraeg yn gallu mynychu diwrnod blasu ym Mhrifysgol Abertawe.

“Nod y diwrnod oedd annog myfyrwyr cyfrwng Cymraeg i astudio eu cwrs yn Gymraeg ac ymgeisio am ysgoloriaeth cymhelliant sydd ynghlwm a’r cyrsiau hynny,” meddai’r Hyrwyddwr Dwyieithrwydd, Anna Davies, a drefnodd y digwyddiad. “Cydweithiwyd gyda cholegau Addysg Bellach cyfagos ac ysgolion Cymraeg y rhanbarth er mwyn sicrhau bod y neges yn cyrraedd cymaint o bobl a phosib a bod bob myfyriwr potensial yn cael cyfle i fynychu’r diwrnod.”

Cafwyd darlithoedd byr mewn Nyrsio a Bydwragedd a Gwaith Cymdeithasol yn Gymraeg gan Amanda Jones, Anneka Bell, Angharad Jones a Miriam Leigh, darlithwyr cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe.  Bu’r myfyrwyr hefyd yn ffodus iawn o gael digon o gyngor am eu ffurflen gais, y broses gyfweld ac astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Cafodd y myfyrwyr sesiynau ymarferol yn yr ystafelloedd clinigol fel brwsio dannedd claf, geni babi, gosod gwely, a chymryd pwysau gwaed,” meddai Elin Leyshon, Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe.  “Roedd y rhain i gyd yn brofiadau hollol newydd i’r myfyrwyr.  Bu sesiynau ar waith cymdeithasol gan Miriam Leigh yn fuddiol, a bu’r drafodaeth am yr hyn sy’n gwneud gweithiwr cymdeithasol da.  Ffocysodd feddyliau’r myfyrwyr ar yr hyn fydd angen iddynt fedru dangos ar eu ffurflen gais ac mewn cyfweliad.”

Yn dilyn llwyddiant y diwrnod y gobaith yw tracio nifer y myfyrwyr sydd nawr ym mynd ymlaen i astudio ar y cyrsiau hyn, yn Gymraeg, ac yn derbyn ysgoloriaeth am wneud hynny.

 “Mae trefnu diwrnodau fel hyn mewn partneriaeth a’r brifysgol yn atgyfnerthu’r berthynas honno rhwng addysg bellach ac addysg uwch, ac yn dangos i’r myfyrwyr bod eu sgil yn y Gymraeg yn un bwysig yn enwedig o ran cyflogadwyedd,” ychwanegodd Anna Davies.