Skip to main content
Dr Doolittle Abertawe yn derbyn cynnig gan Gaergrawnt

Dr Doolittle Abertawe yn derbyn cynnig gan Gaergrawnt

Mae myfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe un cam yn agosach at gyflawni ei freuddwyd o ddod yn filfeddyg ar ôl derbyn cynnig i astudio yn un o brifysgolion mwyaf nodedig y DU.

Ar ôl ennill tair A* mewn Mathemateg, Bioleg a Chemeg, mae Edan Reid, 18 oed o Abertawe â’i fryd ar fod yn filfeddyg arbenigol.

Fel pob dysgwr Safon Uwch eleni, mae llwybr Edan i lwyddiant heddiw wedi bod yn wahanol iawn i lwyddiant y blynyddoedd blaenorol gan fod y pandemig wedi effeithio ar arholiadau traddodiadol. Fodd bynnag, fe wnaeth ymrwymo i baratoi ar gyfer ei arholiadau terfynol i sicrhau ei fod yn cael y canlyniadau yr oedd eu hangen arno.

Diolch i waith caled Edan mae wedi rhagori ar y graddau yr oedd eu hangen arno i sicrhau lle yng Ngholeg Gonville a Caius, Caergrawnt lle bydd yn astudio milfeddygaeth - un o gyrsiau mwyaf cystadleuol y brifysgol - ym mis Hydref.

Yn siarad am ei ganlyniadau Safon Uwch, dywedodd Edan: “Ers oeddwn i’n ifanc dwi bob amser wedi caru anifeiliaid ac wedi breuddwydio am fod yn filfeddyg. Dwi wrth fy modd, ac yn wirioneddol falch ohono i fy hun, ar ôl ennill y canlyniadau Safon Uwch oedd eu hangen arna i, ond mae sicrhau lle ym Mhrifysgol Caergrawnt - llwybr nad oeddwn i erioed wedi’i ystyried cyn astudio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe – yn goron ar y cyfan”.

Pan gofrestrodd Edan yng Ngholeg Gower Abertawe ar y dechrau, fe’i cyflwynwyd i lwybr rhaglen Rhydgrawnt y Coleg sy’n darparu cymorth pwrpasol i fyfyrwyr sy’n gobeithio astudio ym mhrifysgolion gorau’r DU.

Ochr yn ochr â sesiynau tiwtorial wythnosol, profion gallu a pharatoi ar gyfer asesiadau, cafodd Edan gymorth wedi’i deilwra trwy raglen Rhydgrawnt gyda ffug gyfweliadau mynediad prifysgol gyda milfeddygon lleol wedi’u cydlynu gan ddarlithwyr yn y Coleg. Yn ogystal, cymerodd Edan ran mewn cynllun mentoriaeth a oedd wedi’i bartneru ag un o fyfyrwyr presennol Caergrawnt a gynigiodd gymorth a chyngor ar ei gyfweliad mynediad a’r hyn oedd i’w ddisgwyl yn ei flynyddoedd cyntaf ar y cwrs.

Yn siarad am ei uchelgeisiau fel milfeddyg, dywedodd Edan: “Fy mreuddwyd yw arbenigo mewn cardileg anifeiliaid neu agor fy mhractis fy hunan. Ond pwy a ŵyr, efallai y bydda i’n ymarfer fy niddordeb mewn geneteg ac arbed rhywogaethau ym mhedwar ban byd trwy waith ymchwil ym maes cadwraeth. Ond ar hyn o bryd, dwi’n edrych ymlaen at ddechrau’r bennod nesaf ar fy nhaith filfeddygol yng Nghaergrawnt, gan ddechrau trwy balu’n ddwfn i arferion cyn-glinigol”.

Roedd graddau trawiadol Edan wedi sicrhau cynigion iddo o Brifysgol Caergrawnt, ond hefyd o Brifysgol Lerpwl a Phrifysgol Nottingham ac mae hyn yn dyst i flwyddyn lwyddiannus arall o ganlyniadau Safon Uwch a galwedigaethol ar gyfer dysgwyr Coleg Gŵyr Abertawe.

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn enwog am ei gymorth a’i addysgu sydd wedi sicrhau llwyddiant i ddysgwyr wrth gyflawni eu nodau.

Mae sicrhau lle mewn prifysgol flaenllaw yn un o’r pum llwybr y mae’r Coleg yn eu cynnig i fyfyrwyr fel rhan o Warant Coleg Gŵyr Abertawe - ymroddiad i baratoi dysgwyr ar gyfer y camau nesaf yn eu dyfodol. Mae’r Warant yn cynnwys pum llwybr dilyniant, o gynnig mewn prifysgol flaenllaw yn y DU, cwrs addas arall yn y Coleg, swydd, prentisiaeth, neu arweiniad cyflogadwyedd wedi’i bersonoli, ac mae’n bwriadu rhoi cymorth wedi’i deilwra i’r holl ddysgwyr, gan eu helpu i gyrraedd eu potensial mwyaf posibl a’u symud ymlaen yn llwyddiannus i’w dyfodol.

Dywedodd Mark Jones, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe: “Ar ran y Coleg hoffwn i longyfarch Edan sydd, heb betruso, wedi addasu i ofynion newidiol y 18 mis diwethaf, ac sydd wedi bod yn hynod ymroddedig i’w astudiaethau, gan sicrhau lle iddo yng Nghaergrawnt.

“Bydd cariad ac angerdd Edan tuag at anifeiliaid yn ei roi ar y trywydd iawn i ddysgu gan rai o ddarlithwyr gorau’r DU. Bydd e’n filfeddyg gwych yn y dyfodol, ac rydyn ni’n  gyffrous am ei ddyfodol a phopeth y bydd yn ei gyflawni. Dwi mor falch o weld myfyrwyr ifanc brwd, disglair fel Edan yn bwrw ymlaen tuag at eu dyfodol priodol gyda chymorth ein staff gweithgar."