Myfyriwr Coleg Gŵyr Abertawe yn ennill statws Llysgennad Prentisiaethau Cymraeg


Diweddarwyd 16/12/2021

Mae un o brentisiaid Coleg Gŵyr Abertawe, Ryan Williams, wedi cael ei ddewis i fod yn un o 12 llysgennad sy’n ysbrydoli eraill i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg yn eu gweithleoedd prentisiaeth.

Mae llysgenhadon Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru yn cynrychioli amrywiaeth eang o sectorau galwedigaethol, gan gynnwys sectorau blaenoriaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer prentisiaethau Cymraeg a dwyieithog - iechyd a gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar, adeiladu ac amaethyddiaeth.

Yn ddiweddar, cynhaliodd y prosiect, a ariennir gan Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sesiynau hyfforddiant rhithwir, lle bu’r llysgenhadon yn gwrando ar siaradwyr ysbrydoledig. Bydd rôl Ryan, fel llysgennad yn cynnwys creu cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol a rhannu ei brofiadau. Mi fydd hefyd yn cael cyfle i greu blogiau, blogiau fideo a chyfrannu i drafodaethau ar y radio a’r teledu.

Mae Ryan yn astudio cwrs Paratoi ar gyfer Arwain a Rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Lefel 4) ac mae e’n astudio prentisiaeth gyda Gellinudd Recovery Centre

“Ers cael fy mhenodi’n llysgennad, dw i wedi cael cyfleoedd rhwydweithio gwych ar gyfer fy nghyflogwr ac ar fy nghyfer i. Dw i wedi cael cyfle i barhau i ddefnyddio’r Gymraeg ac rydw i’n argymell eraill i wneud yr un peth. Mae’n deimlad braf annog eraill i gyrchu prentisiaethau.” dywedodd Ryan.

Ychwanegodd Emma Howells, Tiwtor/Asesydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol “Mae’r cyfle hwn wedi ei alluogi i ennill profiad gwerthfawr o hyfforddi a mentora eraill, a fydd o fudd iddo yn ei rôl fel prif nyrs. 

“Mi fydd hefyd yn cael cyfle i hyrwyddo’r Gymraeg i ddarpar fyfyrwyr eraill.”

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y llysgennhadon, ewch i dudalen Dy Ddyfodol Di ar Instagram neu dilynnwch yr hashnod #WelshAtWork ar Twitter neu Instagram.

Tags: