Skip to main content
Cyfarfod diweddar o’r Bwrdd

Hyrwyddo gyrfaoedd yn y diwydiannau creadigol

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o fod yn rhan o Fwrdd Cyflogwyr Diwydiannau Creadigol.

Sefydlwyd yn 2021 gyda thros 30 o gyflogwyr, mae’r Bwrdd yn ceisio meithrin talent, nodi cyfleoedd i bobl ifanc, hyfforddi a mentora, a dathlu cyflawniad.

“Mae’n bwysig iawn cofio bod angen pobl â sgiliau creadigol ar bob sector” meddai’r Cadeirydd Rachael Wheatley, sylfaenydd Waters Creative, asiantaeth sy’n arbenigo mewn dylunio graffig a gwe, brandio a marchnata.

“Mae’r diwydiannau creadigol yn cynnwys amrywiaeth eang o sectorau fel cerddoriaeth a’r celfyddydau perfformio, ffilm a theledu, gemau cyfrifiadurol, cyhoeddi a chysylltiadau cyhoeddus ac mae angen pobl ifanc ar y diwydiannau hynny nid yn unig pobl â doniau artistig ond pobl â sgiliau mewn gwyddoniaeth, peirianneg, mathemateg, busnes, dadansoddi data a gweinyddu hefyd.”

“Mae’r Bwrdd Cyflogwyr Diwydiannau Creadigol yn ceisio cyfuno profiad diwydiant â chwricwlwm academaidd blaengar sydd wir yn gallu helpu i siapio talentau creadigol y dyfodol.”

Mae’r Bwrdd yn cynnwys cyflogwyr ar draws rhanbarth De Cymru gan gynnwys Oriel Mission, Gower Digital, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Crunch Simply a llawer mwy.

“Drwy gydweithio gallwn ni adrodd ein storïau, rhannu ein harbenigedd a rhoi hyder i’n dysgwyr gobeithio. Mae llwybrau gwych i’w harchwilio nid yn unig yng Nghymru ond y tu hwnt i Gymru hefyd, ac rydyn ni’n ymrwymedig i ehangu mynediad i’r sectorau hyn ar gyfer ein pobl ifanc” ychwanegodd y Rheolwr Maes Dysgu Jenny Hill

“Yn aml mae diffyg ymwybyddiaeth o yrfaoedd yn y celfyddydau ond mae’n ddiwydiant buddiol a chyfoethog iawn i fentro iddo, gyda chyfleoedd go iawn ar gyfer gyrfaoedd hirdymor, cynaliadwy sy’n gallu talu’n dda iawn.”

Rhagor o wybodaeth - https://discovercreative.careers/cy/#/

Dyw hi ddim yn rhy hwyr i wneud cais! Rydyn ni’n dal i gofrestru ar gyfer 2022