Skip to main content
Myfyriwr yn defnyddio penset Realiti Rhithwir

Llawn hwyl, diddorol, a rhyngweithiol: sut mae Realiti Rhithwir wedi newid nosweithiau agored yng Ngholeg Gŵyr Abertawe

Diolch yn fawr i Jisc am yr erthygl hon

Ym mis Mawrth 2020, fel pob darparwr addysg, roedd Coleg Gŵyr Abertawe yn wynebu’r her annisgwyl o symud ar-lein. Cafodd nosweithiau agored wyneb yn wyneb eu canslo, ac felly bu’n rhaid i staff ddod o hyd i ateb i ddenu diddordeb darpar fyfyrwyr.

Fe wnaethon nhw greu Dosbarth Agored, platfform sy’n rhoi modd iddynt rannu gwybodaeth hanfodol mewn ffordd hwyliog a rhyngweithiol a dod â’r gymuned leol at ei gilydd.

Dywedodd Kate Pearce, Rheolwr Atebion Digidol:

“Roedd Dosbarth Agored wedi’i gwneud hi’n hawdd i’r ysgolion roedden ni’n gweithio gyda nhw gyfeirio eu myfyrwyr i’r Coleg. Nid mater o rannu gwybodaeth am gyrsiau yn unig oedd hyn. O ystyried y sefyllfa ar y pryd, roedden ni eisiau rhannu gwybodaeth i gefnogi eu lles a dod o hyd i’r ffordd orau o gyflwyno’r Coleg.”

Ar y pryd, roedd Dosbarth Agored yn ateb i oresgyn her benodol, ond dyma oedd y cam mawr cyntaf ar eu taith ddigidol. Yn ystod yr ail gyfnod clo, cafodd y Coleg gyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi prosiectau digidol. Gyda chefnogaeth uwch reolwyr, prynodd Kate offer realiti rhithwir a dechreuodd weithio gyda’i thîm i greu teithiau realiti rhithwir fel ffordd newydd o ddangos ysgolion o gwmpas y Coleg.

Ar draws y pum campws, treuliwyd llawer o amser ac ymdrech yn sganio’r ystafelloedd wrth baratoi i drefnu teithiau. Gan ddefnyddio’r camera, fe wnaeth y staff nodi ystafell ar gyfer pob pwnc a’i llwyfannu fel pe bai’n noson agored draddodiadol, gan dynnu sylw at unrhyw beth roedd Kate yn meddwl fyddai o ddiddordeb i’r myfyrwyr. Dywedodd:

“Os oedd ‘na waith portffolio yn yr ystafelloedd celf neu ffotograffiaeth, er enghraifft, bydden ni’n gosod y gwaith ‘na allan, oherwydd mae’r manylder yn anhygoel pan fyddwch chi’n chwyddo mewn. Mae pob cylch a welwch chi ar y llawr yn cynrychioli symudiad camera ac felly mae hynny’n rhoi syniad i chi o’r math o beth roedd angen i’r tîm yma ei wneud.”

Pan dderbyniwyd rhagor o gyllid gan y llywodraeth, edrychodd Kate ar ffyrdd o ehangu ar y teithiau realiti rhithwir a phenderfynodd gynnwys athro/athrawes ar gyfer pob maes pwnc. Felly drwy glicio ar ddot coch unrhyw le ar y sgrin mae’n mynd â chi i fideo YouTube o’r aelod o staff yn siarad am ei faes pwnc. Dywedodd Kate:

“Mae efelychu noson agored wyneb yn wyneb mor agos â phosibl yn creu naws Coleg go iawn i’r myfyrwyr.”

Agwedd werthfawr arall o gael teithiau realiti rhithwir oedd y sicrwydd roedd yn ei gynnig i’r myfyrwyr. Yn ogystal â wynebu’r posibilrwydd o amgylchedd newydd, adeilad gwahanol, set newydd o athrawon a chyd-fyfyrwyr, byddai hyn oll yn digwydd ar ôl misoedd o fod i ffwrdd o’r ystafell ddosbarth yn gyfan gwbl. Dywedodd Kate:

“Dwi’n cofio meddwl bod nhw heb gael cyfle i ymweld â’r Coleg, a bod nhw heb fod yn yr ysgol chwaith am y chwe mis diwethaf. Os yw pobl ifanc yn teimlo’n bryderus am fynd yn ôl i amgylchedd cyfarwydd yr ysgol, mae pobl ifanc sy’n mynd i goleg newydd yn mynd i fod yn fwy pryderus fyth.”

Er bod ymweliadau â’r Coleg yn y calendr eto, mae’r teithiau realiti rhithwir yn dal i fod yn boblogaidd. Mae llawer o fyfyrwyr yn credu bod teithio o amgylch y Coleg yn rhithwir cyn mynd i noson agored yn gallu bod yn ddefnyddiol i dawelu unrhyw bryder am leoliad newydd a allai fod yn llethol. Mae’r Coleg hefyd yn cydweithio â dwy ysgol arbennig yn Abertawe, mae’r ddwy yn gweithio gyda myfyrwyr ag anhwylderau gwybyddol a datblygiadol, ac mae un yn arbenigo mewn anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau corfforol.

Ar gyfer yr ysgolion hyn, mae’r teithiau realiti rhithwir wedi bod o gymorth i fyfyrwyr a’u rhieni wrth iddynt reoli’r ansicrwydd a all ddigwydd yn ystod cyfnodau pontio.

Mae gweithio’n agosach gydag ysgolion lleol a meithrin perthynas gryfach gyda nhw wedi bod yn fantais wirioneddol arall i’r prosiect ac yn rhywbeth y mae Kate yn awyddus i barhau i adeiladu arno. Yn ogystal â’r camera, prynwyd dau glustffon ar gyfer pob un o’r 18 ysgol roedd y Coleg yn gweithio gyda nhw, gan roi mynediad iddynt i’r teithiau mor aml ag y dymunent. Mae’r ystafelloedd dosbarth realiti rhithwir a chyfleusterau fel y gampfa a’r caffeteria wedi bod yn boblogaidd, ac, yn annisgwyl, mae nodwedd arall wedi bod yn boblogaidd hefyd.

Dywedodd Kate:

“Mae’r bechgyn yn arbennig wedi bod yn eithaf awyddus i ddarganfod beth sydd yn y peiriannau gwerthu, pa fwyd sydd yna i’w brynu, maen nhw’n llawn cyffro pan maen nhw’n gweld bod Freddos gyda ni! Mae’n wych eu bod nhw’n ymuno â’r teithiau ac yn cael hwyl. Os ydyn nhw’n mynd i ffwrdd yn meddwl am y Coleg ac yn teimlo’n hapus, os yw’n gwneud iddyn nhw wenu, mae hynny’n golygu llwyddiant yn fy marn i.”

Nid oes gan y Coleg unrhyw gynlluniau i orffwys ar ei rwyfau ar ôl ystafelloedd dosbarth 3D a theithiau realiti rhithwir, mae cam nesaf eu taith ddigidol eisoes ar y gweill. Mae’r tîm digidol yn gweithio gyda datblygwr ar ap a fyddai’n cynnig profiad llywio realiti estynedig o amgylch y Coleg, gan ddefnyddio’r sganiau sydd eisoes ar waith ar gyfer y teithiau realiti rhithwir.

“Rydyn ni ar y camau cynnar ar hyn o bryd felly hyd yn oed os nad yw’n cael ei ddefnyddio mewn coleg yn y pen draw, rydyn ni eisiau ei wneud yn ddigon hyblyg i’w gymryd fel sylfaen, a gallai prifysgol ei ddefnyddio, neu ysbyty.”

Gyda’r awydd am realiti estynedig a realiti rhithwir yn tyfu yn y sector, yn ddiweddar mae Jisc wedi partneru ag arbenigwr dysgu trochi, Metaverse Learning. Nod y bartneriaeth yw arbed costau i aelodau Jisc a gwella mynediad i adnoddau dysgu realiti estynedig a realiti rhithwir o fewn y sector addysg drydyddol.

I unrhyw goleg arall sy’n ystyried symud i fyd realiti rhithwir, mae gan Kate rai geiriau o gyngor:

“Siaradwch â phobl eraill a defnyddiwch y sgiliau a’r arbenigedd o fewn eich tîm. Byddwch yn barod i roi cynnig ar bethau a bwrw ymlaen, oherwydd os yw’n rhywbeth tebyg i’n profiad ni bydd e’n gyfle dysgu digidol gwych i bawb sy’n cymryd rhan."