Skip to main content

Lleoliad pum seren yn croesawu myfyrwyr Lletygarwch

Yn ddiweddar aeth myfyrwyr Lletygarwch o Goleg Gŵyr Abertawe i ddigwyddiad blasu diwydiant yng ngwesty pum seren Oldwalls, Bro Gŵyr.

Yn ystod yr ymweliad, a drefnwyd gan Swyddog Menter y Coleg Lucy Turtle a’r darlithydd Stephen Williams, roedd y myfyrwyr wedi manteisio ar daith y tu ôl i’r llenni yn y lleoliad arobryn. Roedden nhw hefyd wedi mynd i weithdai gyda’r pen-cogydd, y rheolwr arlwyo, y cydlynydd priodasau a’r tîm gwerthu.

“Roedd yn gyfle gwych i’r myfyrwyr gael gwybod rhagor am y diwydiant ymwelwyr a chael dealltwriaeth o’r agweddau gwahanol ar redeg busnes llwyddiannus,” dywedodd Lucy.

“Roedd y myfyrwyr yn frwdfrydig dros ben am yr ymweliad hwn. Roedd cwrdd â thîm recriwtio Oldwalls wedi agor eu llygaid i lwybrau gyrfa posibl a chyfleoedd profiad gwaith fydd yn rhoi modd iddyn nhw wella eu sgiliau technegol a rhyngbersonol,” ychwanegodd Stephen.

Mae Oldwalls yn lle annibynnol yng nghanol Bro Gŵyr a enillodd dwy wobr yn ddiweddar yng Ngwobrau Priodas Cenedlaethol Cymru – y Lleoliad Priodas Rhanbarthol Gorau a’r Lleoliad Priodas Gorau yng Nghymru.

“Mae wedi bod yn flwyddyn fwy llwyddiannus nag erioed i ni ac rydyn ni’n edrych ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant hwn yn y dyfodol,” dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr a’r perchennog Andrew Hole. “Mae’r twf o’r naill flwyddyn i’r llall wedi bod yn well na’r disgwyl. Byddwn ni’n dal ati i fuddsoddi yn Oldwalls er mwyn parhau i fod y cyflogwr mwyaf ym Mro Gŵyr a gwireddu ein huchelgais i roi’r ardal brydferth hon o Gymru ar y map.”