Llwyddiant Olympiad Bioleg i fyfyrwyr


Diweddarwyd 06/03/2020

Roedd grŵp o fyfyrwyr Safon UG o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cymryd rhan yn Olympiad Bioleg Prydain (OBP) yn ddiweddar.

Roedd y myfyrwyr wedi cael canlyniadau gwych, ac roedd un - Rebecca Thompson – wedi ennill medal Arian ac roedd un arall - Edan Reid – wedi ennill medal Efydd.

Yn cystadlu hefyd roedd Kristy Pen, Joel Asigri, Katie Broome, Lanxin Xu, Lewis Crane, Angie Chong, Anisah Uddin, a Marvel Biju.

“Roedd y myfyrwyr wedi ymroi’n dda iawn i amodau’r prawf ac roedden ni’n falch iawn o’r canlyniadau hyn,” dywedodd yr Arweinydd Cwricwlwm Stewart McConnell. “Yn ogystal â’r ddwy fedal, cafodd dau fyfyriwr ‘ganmoliaeth’ a chafodd tri ‘ganmoliaeth fawr’ ac felly, at ei gilydd, mae hyn yn ymdrech tîm gwych.”

Mae’r OBP, a drefnir gan Gymdeithas Frenhinol Bioleg, yn herio ac yn ysgogi myfyrwyr â diddordeb mewn bioleg i ehangu ac ymestyn eu doniau. Mae’n agored i’r holl fyfyrwyr mewn addysg ôl-16 ac mae’n cynnwys dau bapur dewis lluosog, 45 munud i’w sefyll ar-lein dan amodau arholiad dan oruchwyliaeth staff.

Tags: