Skip to main content
Myfyriwr Abertawe yn ymuno â her Plant mewn Angen y BBC

Myfyriwr Abertawe yn ymuno â her Plant mewn Angen y BBC

Fel y cyhoeddwyd ar raglen y BBC The One Show ar 21 Hydref, mae grŵp o bobl ifanc wedi’u dewis i gymryd rhan mewn her newydd i godi arian ar gyfer Plant Mewn Angen y BBC.

Mae’r Surprise Squad yn cynnwys pum person ifanc ysbrydoledig sydd wedi cael cefnogaeth Plant Mewn Angen y BBC ac sydd am roi help llaw yn ôl fel y gall pobl eraill elwa arno.

Ynghyd â chyflwynwyr The One Show, Alex Jones, Ronan Keating a Jermaine Jenas, bydd y Surprise Squad yn mynd i leoliadau ledled y wlad lle byddant yn cwblhau heriau annisgwyl i brosiectau a ariennir gan Blant mewn Angen y BBC sydd angen ychydig o help gyda rhywbeth – gallai hyn fod yn unrhyw beth o greu gardd gyfrinachol ar gyfer hosbis plant, neu drefnu digwyddiad codi arian cymunedol mawr ei angen i hybu prosiect lleol.

Bydd y tîm o bobl ifanc yn cyflawni eu syrpreisys ac yn eu cwblhau o fewn diwrnod. Bydd gwylwyr The One Show yn gallu gwylio sut mae’r syrpreisys yn datblygu bob nos, a dysgu am straeon ysbrydoledig y bobl ifanc, yn ystod Wythnos Apêl Plant Mewn Angen y BBC.

Ymhlith y Surprise Squad mae Nathan Pollard-Jones, myfyriwr Safon Uwch Coleg Gŵyr Abertawe, sy’n 17 oed.

Cafodd Nathan ddiagnosis o Lewcemia Lymffoblastig Acíwt pan oedd yn 13 oed yn 2018. Roedd yn fachgen gweithgar yn ei arddegau ond roedd yn teimlo’n flinedig, felly aeth at y meddyg ac yn y pen draw cafodd ddiagnosis o ganser. Treuliodd Nathan dair blynedd mewn triniaeth gyda llawer o amser yn cael ei dreulio yn yr ysbyty, a oedd yn anodd iddo gan fod rhaid iddo dreulio llawer o amser i ffwrdd o’r ysgol a’i ffrindiau.

Yn ogystal, cafodd rywfaint o’i driniaeth yn ystod Covid-19 a wnaeth bethau hyd yn oed yn anoddach oherwydd bu’n rhaid iddo ynysu oddi wrth deulu a ffrindiau i leihau’r risg o’i ddal. Yn ddiweddar, mae Nathan wedi gorffen triniaeth ac yn mynd i’r Coleg, lle mae’n astudio Safon Uwch.

Mae wedi cael cefnogaeth gan Teenage Cancer Trust, sy’n derbyn cyllid gan Blant Mewn Angen y BBC i ddarparu penwythnos Find Your Sense of Tumor sy’n helpu pobl ifanc i ailadeiladu eu bywydau ar ôl canser. Maen nhw’n dod â phobl ifanc â chanser ynghyd i glywed gan arbenigwyr, i gael cyngor ac yn bwysicaf oll, i fod yn nhw eu hunain a chael hwyl.

Dywedodd Nathan: “Ar ôl gorffen fy nhriniaeth canser yn ddiweddar, dwi’n teimlo mor falch fy mod i’n gallu bod yn rhan o’r Surprise Squad. Gobeithio bydd y syrpreisys rydyn ni’n eu creu yn gwneud gwahaniaeth enfawr i bobl eraill sy’n wynebu heriau.”

Bydd Alex Jones o The One Show yn ymuno â’r tîm yn ystod un o’r syrpreisys. Dywedodd: “Dwi’n gyffrous i fod yn ôl ar y soffa werdd, ac yn ymuno â’r Surprise Squad wrth iddyn nhw gyflwyno’r heriau gwirioneddol arbennig hyn ar gyfer prosiectau a ariennir gan Blant Mewn Angen y BBC ledled y wlad. Dwi’n methu aros i’r gynulleidfa weld beth mae’r Surprise Squad yn ei wneud a gobeithio bydd y straeon anhygoel yn eu hysbrydoli.”

Bydd Ronan Keating hefyd yn ymuno â’r tîm ar gyfer un o’r syrpreisys. Dywedodd: “Rydyn ni wir yn edrych ymlaen i gyflwyno’r syrpreisys hyn i sefydliadau teilwng ledled y wlad. Rydyn ni’n gobeithio bydd y syrpreisys hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’r rhai sy’n eu derbyn ac allwn ni ddim aros i ddod â’r gynulleidfa gyda ni i weld beth mae’r Surprise Squad yn ei wneud!”

Ychwanegodd Jermaine Jenas: “Dwi’n edrych ymlaen i weld rhai o’r pethau anhygoel y mae’r Surprise Squad yn eu gwneud, a sut y bydd hyn yn fuddiol i gymunedau ar draws y wlad, a gobeithio bydd ein cynulleidfa wrth eu bodd yn ei gwylio hefyd!”

Aelodau eraill y Surprise Squad yw:

Ore, 19 o’r Barri, Cymru. Mae Ore yn ofalwr ifanc sy’n helpu i edrych ar ôl ei chwaer iau Ire sy’n 14 oed ac sydd ag Anhwylder y Crymangelloedd. Ore oedd prif ofalwr ei mam, a fu farw ddwy flynedd yn ôl ym mis Hydref 2019 yn dilyn blynyddoedd lawer o salwch. Mae Ore yn byw gyda’i thad a’i chwaer. Mae Ore yn eiriolwr angerddol dros deuluoedd sy’n byw gydag Anhwylder y Crymangelloedd - mae hi am chwalu’r stigma sydd weithiau yn gallu effeithio ar bobl sy’n dioddef o’r cyflwr. Mae hi hefyd am dynnu sylw at ba mor ddifrifol y gall effaith Anhwylder y Crymangelloedd fod ar fywydau pobl a rhoi gwell dealltwriaeth i bobl o’r cyflwr i bobl o bob cefndir. Mae Ore wedi cael cefnogaeth Cyfeillion Cymru Crymangelloedd a Thalassemia trwy eu prosiect ieuenctid a’u gwasanaeth cymorth cartref.

Dywedodd Ore: “Dwi wir yn edrych ymlaen i fod yn rhan o’r Surprise Squad a gwneud rhywbeth a fydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i blant a phobl ifanc eraill ledled y wlad.”

Joseph, 19 o Lerpwl. Mae gan Joseph barlys yr ymennydd ac mae wedi bod yn mynychu prosiect Stick ‘n’ Step, a ariennir gan Blant mewn Angen y BBC ers iddo fod yn ddwy oed. Mae’n dweud bod y prosiect wedi newid ei fywyd mewn sawl ffordd, yn bennaf trwy ei ddysgu sut i gerdded. Cafodd Joseph lawdriniaeth fawr yn 2016 lle bu’n rhaid iddo ddysgu cerdded eto, mae wedi gwella ers hynny ac mae bellach yn disgrifio’i hun fel rhywun ag anabledd cudd, oherwydd yn dilyn ei lawdriniaeth mae ei anabledd yn llai amlwg. Gall hyn fod yn anodd iddo ei egluro weithiau, oherwydd mae’n anodd gwneud rhai symudiadau neu dasgau gan nad oes cryfder ganddo.

Dywedodd Joseph: “Mae bod yn rhan o’r Surprise Squad eleni yn rhywbeth rydw i’n edrych ymlaen yn fawr ato. Dwi am rannu fy stori a gobeithio y galla i helpu i godi arian ar gyfer plant eraill a phobl ifanc fel fi.”

Roisin, 16 o Derry / Londonderry, Gogledd Iwerddon. Pan oedd Roisin yn 14 oed, cafodd strôc a achosodd anableddau a newidiodd ei bywyd. Treuliodd dri mis yn yr ysbyty a bu’n rhaid iddi ailddysgu sut i gerdded, siarad a bwyta. Hyd hynny roedd hi’n ferch iach yn ei harddegau a oedd wrth ei bodd yn canu a pherfformio. Ers cael y strôc, mae pethau yn gallu bod yn eithaf anodd i Roisin gan nad yw’n gallu gwneud yr holl bethau roedd hi’n arfer eu gwneud ond mae hi’n magu hyder eto ac yn edrych ymlaen i fod yn rhan o’r Surprise Squad. Mae Roisin wedi cael cefnogaeth Brain Injury Matters sy’n cyflwyno prosiect grymuso ieuenctid gyda chyllid gan Blant Mewn Angen y BBC.

Dywedodd Roisin: “Mae bod yn rhan o’r Surprise Squad yn gyflawniad enfawr i mi. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr i helpu i wneud gwahaniaeth a fydd yn fuddiol i bobl eraill. Gobeithio bydd pobl yn rhoi, os gallan nhw.”

Dylan, 18 o Glasgow. Mae gan Dylan awtistiaeth. Datblygodd gyflwr prin o’r enw Syndrom MDP pan oedd yn 18 mis oed, gan dderbyn diagnosis yn y pen draw yn 10 oed. Nid yw MDP ond yn effeithio arno ef a 15 o bobl eraill yn y byd ac mae’n achosi byddardod, colli braster o dan y croen, stiffrwydd yn y cymalau a phroblemau llygaid. Mae Dylan yn wirioneddol angerddol am godi ymwybyddiaeth o’i gyflwr. Drwy gydol ei fywyd ysgol mae wedi traddodi areithiau i’w gyd-ddisgyblion am MDP ac mae hefyd yn defnyddio ei sgiliau mewn ffotograffiaeth i wneud hyn, gan ei fod yn ffotograffydd angerddol a thalentog. Ers blynyddoedd lawer mae wedi cael cefnogaeth gan Indepen-dance sy’n cyflwyno sesiynau dawns i bobl ifanc anabl.

Dywedodd Dylan: “Dwi wedi treulio fy mywyd yn codi ymwybyddiaeth am fy nghyflwr gyda ffrindiau ysgol a fy nghymuned ehangach. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr i allu rhannu fy stori gyda gwylwyr The One Show. Dwi’n gobeithio y galla i helpu i godi arian a fydd yn mynd ymlaen i gefnogi pobl ifanc eraill fel fi.” 

Dywedodd Rob Unsworth, Pennaeth The One Show: “Eleni rydyn ni wir eisiau rhoi help llaw i rai o’r prosiectau sydd wedi cael eu hariannu gan Blant Mewn Angen y BBC. Bydd y Surprise Squad yn helpu i ddarparu ychydig o hud a lledrith i brosiectau ledled y wlad, ac ar yr un pryd yn rhannu eu straeon ysbrydoledig hefyd.”

Dywedodd Tommy Nagra, Cyfarwyddwr Cynnwys Plant Mewn Angen y BBC: “Mae’n wych bod The One Show yn ôl gyda her newydd sbon eleni. Mae straeon anhygoel y bobl ifanc sy’n goresgyn eu heriau eu hunain i ddiolch, synnu a swyno pobl eraill mewn angen yn wirioneddol ysbrydoledig. Gobeithio bydd gwylwyr gartref yr un mor ysbrydoledig gan eu hymdrechion. Gwyliwch The One Show i weld y pethau anhygoel mae’r tîm o bobl ifanc rhyfeddol hyn yn eu cyflawni!”

I gael manylion sut i roi a chefnogi’r Surprise Squad ar gyfer Plant Mewn Angen y BBC ewch i www.bbc.co.uk/pudsey.
 

DIWEDD –

Gweledigaeth Plant Mewn Angen y BBC yw bod pob plentyn yn y DU yn cael plentyndod diogel a hapus a’r cyfle i gyrraedd ei botensial. Bydd yr elusen yn gwireddu’r weledigaeth hon trwy gefnogi, hyrwyddo a rhoi cyhoeddusrwydd i’r gwaith sy’n mynd i’r afael â’r heriau y mae plant a phobl ifanc yn eu hwynebu a gwaith sy’n cynyddu eu sgiliau a’u gwydnwch.

Ar hyn o bryd mae Plant Mewn Angen y BBC yn cefnogi dros 2,500 o elusennau a phrosiectau lleol mewn cymunedau ar draws y DU sy’n helpu plant a phobl ifanc sy’n wynebu amrywiaeth o anfanteision megis byw mewn tlodi, bod yn anabl neu’n sâl, neu’n profi trallod, esgeulustod neu drawma.