Skip to main content
Grŵp o bobl y tu allan i adeilad, un yn dal siec

Myfyriwr Mynediad yn ennill bwrsari arbennig

Mae cyn-fyfyriwr Coleg Gŵyr Abertawe, Aaliyah Wood, wedi cael ei dewis i dderbyn Bwrsari Collab Group Peter Roberts. Llongyfarchiadau mawr iddi.

Mae’r Bwrsari gwerth £2,500, a noddir gan The Skills Network, yn cael ei ddyfarnu bob blwyddyn i ddau fyfyriwr yn y DU sydd wedi astudio mewn coleg Collab Group ac sy’n mynd i’r brifysgol neu’n dechrau eu busnes eu hunain.

Astudiodd Aaliyah Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2 yn y Coleg cyn symud ymlaen i gwblhau Mynediad i’r Gyfraith, lle cafodd ei haddysgu gan Allison Bray a Michael Adams. 

“Mae Aaliyah wedi goresgyn rhwystrau go iawn i addysg ac mae hi’n ysbrydiolaeth anhygoel i’r myfyrwyr eraill,” meddai Allison. “Yn ogystal â’i hastudiaethau, mae hi’n bwriadu sefydlu cyfleoedd gwirfoddoli yn ei hamser hamdden. Rydyn ni’n hynod falch o’i chynnydd. Hoffen ni i gyd ddymuno’r gorau iddi wrth iddi symud ymlaen o addysg bellach i addysg uwch, i astudio seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe.”

Roedd Peter Roberts yn Bennaeth rhagorol yng Ngholeg Stockport a Choleg Dinas Leeds ac fel cyn Gadeirydd Collab Group. Roedd yn adnabyddus trwy’r sector addysg bellach fel gweithiwr proffesiynol cynnes, digrif ac ymroddedig a oedd yn llwyr ymrwymedig i lwyddiant ei fyfyrwyr.

Dywedodd Mark Dawe, Prif Swyddog Gweithredol The Skills Network: “Rydyn ni’n falch dros ben bod The Skills Network unwaith eto yn partneru â Collab Group i ddathlu cyflawniad rhagorol o barch i Peter Roberts – ac mae’n wych bod yr enillydd eleni yn deilwng iawn. Rydyn ni am longyfarch Aaliyah ar ei llwyddiant ac am fod yn ysbrydoliaeth i bobl eraill. Yma yn The Skills Network, rydyn ni’n cydnabod bod pob dysgwr yn unigryw, ac mae’r wobr hon yn dathlu’r rhai sy’n gweithio’n galed ac yn dyfalbarhau, ni waeth beth yw eu hamgylchiadau.”

Yn y llun (chwith i’r dde): Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe Mark Jones, Cyfarwyddwr Ansawdd a Chwricwlwm Nikki Neale, Aaliyah Wood, Rheolwr Maes Dysgu Darren Fountain, Darlithydd Allison Bray, a Darlithydd Rebecca Griffiths.