Skip to main content

Myfyrwyr menter yn ennill Gwobr Ian Bennett

Mae tîm o fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe wedi ennill Gwobr Ian Bennett yn Rownd Derfynol yr Her Menter Fyd-eang yng Nghaerdydd.

Roedd myfyrwyr galwedigaethol y Cyfryngau Creadigol Kieran Palfrey, Talisha Weston ac Oliver Draper a’r myfyrwyr Safon Uwch Brad David, Rhys Cozens, Shazia Ali a Josh David-Reed wedi cynrychioli’r coleg yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Mae Gwobr Ian Bennett yn cael ei rhoi i’r tîm ‘mwyaf difyr, mwyaf cymwynasgar a mwyaf cefnogol' yn dilyn pleidlais gan y myfyrwyr eraill yn ystod yr her dau ddiwrnod.

Wrth baratoi at y rownd derfynol gweithiodd y myfyrwyr yn agos gyda Swyddog Menter y coleg Lucy Turtle a’r entrepreneur lleol a’r model rôl Ben Room a gynigiodd gynghorion i’r grŵp ar farchnata, craffter busnes a sgiliau cyflwyno.

“Roedd yn brofiad bendigedig yn helpu ac yn gweithio gyda grŵp o bobl ifanc ymroddedig, blaengar ac ysbrydoledig” dywedodd Ben.

Y diweddar Ian Bennett oedd yr Hyrwyddwr Menter yng Ngholeg Sir Gâr. Roedd yn unigolyn ysbrydoledig a chefnogol ac o’r herwydd penderfynodd Llywodraeth Cymru roi gwobr bob blwyddyn yn ei enw i un grŵp o fyfyrwyr.

Mae’r Her Menter Fyd-eang yn gynllun a gymeradwyir gan Lywodraeth Cymru gyda’r nod o annog ysbryd a gweledigaeth entrepreneuraidd ymhlith pobl ifanc.