Llwyddiant Caergrawnt!


Diweddarwyd 30/01/2018

Mae dau o’n myfyrwyr o Tsieina, Fuhao Song a Han Xuanyuan, wedi cael eu derbyn yn ddiweddar i astudio ym Mhrifysgol Caergrawnt.

Enillodd y myfyrwyr hyn 7 gradd A* rhyngddyn nhw – mae hyn yn anhygoel.

Bydd Fuhao yn astudio Mathemateg yng Ngholeg Homerton a bydd Han yn astudio Cyfrifiadureg yng Ngholeg Churchill.

‘Dw i wedi dwlu ar fy amser yng Ngholeg Gŵyr Abertawe,” medd Fuhao, sy’n dod o Dalian yng ngholedd-dwyrain Tseina. "Mae’r gefnogaeth i fyfyrwyr sydd ar gael ac ansawdd y darlithoedd yn ardderchog ac mae’r awyrgylch yn gyffredinol yn gyfeillgar iawn. Mae’r Rhaglen Rhydychen wedi fy helpu cymaint gyda’m cais i sawl un o brifysgolion gorau Prydain ac, yn benodol, gyda’m cais i astudio Mathemateg yng Nghaergrawnt."

O ran yr hyn sy’n digwydd ar ôl Caergrawnt, hoffai Fuhao barhau i astudio hyd at lefel PhD ac yna dilyn gyrfa mewn mathemateg neu astroffiseg.

"Mae fy mhrofiad yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi bod yn hynod gadarnhaol a phleserus," ychwanega Han, sy’n dod o Beijing yn wreiddiol. "Mae’r addysgu wedi bod yn effeithiol iawn, gan fy helpu i a’m cyfoedion gael canlyniadau academaidd gwych. Mae cyfleusterau’r Coleg yn rhagorol ac maent wedi fy ngalluogi i gyflawni fy mhotensial academaidd llawn. Yn ogystal, ni fyddwn i wedi gallu cael cynigion gan brifysgolion gorau’r byd heb y gefnogaeth ragorol a ddarperir gan y rhaglen HE+ / Seren a’i threfnwyr yn y Coleg, Felicity Padley a Neris Morris. Ar ôl graddio o’r brifysgol, rwy’n cynllunio lansio busnes newydd mewn technoleg a chael llwyddiant yn y byd corfforaethol."

Heinrich a Han yw myfyrwyr Tsieineaidd cyntaf Coleg Gŵyr Abertawe erioed i gael cynnig gan Brifysgol Caergrawnt.

Tags: