Myfyrwyr Peirianneg Electronig yn mynd i'r gystadleuaeth sgiliau


Diweddarwyd 24/09/2018

Bydd prentisiaid a dysgwyr gorau'r DU yn cystadlu am wobr aur yn Rowndiau Terfynol Worldskills UK LIVE ar 15-17 Tachwedd.

Yn eu plith bydd dau o fyfyrwyr Peirianneg Electronig o Goleg Gŵyr Abertawe - Matthew Belton a Jamie Skyrme.

Byddant yn mynd i’r digwyddiad yn NEC Birmingham i wneud set heriol o dasgau cystadleuaeth gan gynnwys canfod namau, dylunio electronig, rhaglennu a phrototeipio.

“Allan o 67 o gystadleuwyr o bob rhan o'r DU, dim ond wyth ohonyn nhw gafodd eu dewis i fynd trwodd i’r rowndiau terfynol ac mae’n gyflawniad gwych bod dau o’r rheini yn cynrychioli’r Coleg,” meddai Arweinydd y Cwricwlwm, Steve Williams.

Bydd yr wyth cystadleuydd yn y rownd derfynol yn gwneud hyfforddiant cyn y gystadleuaeth trwy garedigrwydd Coleg Gŵyr Abertawe a Semta / WorldSkills yn ystod gwyliau hanner tymor mis Hydref i roi prawf ar eu gallu yn y gweithdai ar Gampws Tycoch.

Yn ogystal â chael dau fyfyriwr yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth, ac yn dilyn cais llwyddiannus a gyflwynwyd i WorldSkills gan Steve Williams, bydd y Coleg hefyd yn cynnal arddangosfa ryngweithiol eleni sy'n canolbwyntio ar osodiadau CLYFAR gartref.

“Mae'n anhygoel beth mae technoleg yn gallu ei wneud nawr,” meddai Steve. “Er enghraifft, gall eich oergell ddweud wrth eich ffôn beth sydd ei angen arnoch chi pan fyddwch chi allan yn gwneud eich siopa neu gall eich peiriant golchi ddweud wrth eich teledu pan fydd y cylch wedi gorffen. Bydd ein myfyrwyr, Richard Kostromin a Callum Elsey, ochr yn ochr â'r darlithydd Cameron Jones, yn arddangos yr electroneg sydd y tu ôl i'r datblygiadau hyn sydd wir yn mynd â thechnoleg i'r lefel nesaf.

“Dyma'r ail flwyddyn yn olynol y mae'r Coleg wedi cynnal y digwyddiad arddangos ac rydyn ni’n edrych ymlaen at fod wrth galon y ddarpariaeth electronig yn y DU unwaith eto. Bydd hwn yn brofiad dysgu eithriadol i Matthew, Jamie, Richard a Callum ac rydyn ni wrth ein boddau yn chwarae rhan mor hanfodol yn y digwyddiad hwn.”

Mae Cystadlaethau WorldSkills y DU, a gynhelir mewn partneriaeth â sefydliadau o fyd diwydiant ac addysg, wedi’u profi i helpu pobl i fynd ymhellach, yn gyflymach yn eu hyfforddiant ac yn yr yrfa o’u dewis.

DIWEDD

Tags: