Myfyrwyr yn cynhyrchu arddangosfa ffasiwn rithwir


Diweddarwyd 09/07/2020

Roedd arddangosfa Gradd Sylfaen Dylunio Ffasiwn a Thecstilau eleni yn wahanol iawn i’r arfer. Roedd y cyfyngiadau ar symud yn golygu na allai myfyrwyr gynnal sioe gorfforol, ac felly fe wnaethant arddangos eu gwaith trwy dudalen Instagram bwrpasol.

Roedd pedwar myfyriwr wedi cofrestru ar y cwrs Gradd Sylfaen Dylunio Ffasiwn a Thecstilau eleni; Sheeza Ayub, Amy Convery, Susan McCormok a Bitney Pyle. Achredir y cwrs gan Brifysgol Swydd Gaerloyw.

Yn ystod yr wythnosau cyn yr arddangosfa cawsant gip y tu ôl i’r llenni ar waith y myfyrwyr, gan roi cipolwg ymlaen llaw i ni ar yr edrychiadau terfynol. Ar 19 Mehefin, buont yn arddangos eu gwaith anhygoel trwy gydol y dydd, o ddillad cynaliadwy, teilwra dynion, ffrogiau a staesiau.

Wrth siarad am yr arddangosfa, dywedodd Susanne David, arweinydd y cwrs: “Dyma’r tro cyntaf i ni roi cynnig ar rywbeth fel hyn, yn lansio casgliad terfynol o waith ffasiwn gan ddefnyddio platfform y cyfryngau cymdeithasol yn unig, ac felly roedd yn eitha’ brawychus i’w darlithydd Natalie Hemmingway, a’r myfyrwyr.

“O ystyried bod pawb o dan gyfyngiadau symud yn eu tai, fe wnaethon nhw i gyd weithio'n anhygoel o dda fel tîm, gan gynhyrchu arddangosfa wych o waith. Roeddwn i mor falch o'r hyn a wnaethon nhw ei gyflawni mewn amgylchiadau mor anodd. Mae’n dangos beth yw grŵp proffesiynol, ymroddedig a dyfeisgar o fyfyrwyr. Dwi’n hynod gyffrous i’w gweld nhw’n cychwyn ar y camau nesaf yn eu gyrfaoedd.”

Dywedodd y myfyriwr Amy Convery am y cwrs: “Rydyn ni wedi cael cymorth mor anhygoel ar y cwrs hwn, ac rydw i wedi bod wrth fy modd yn dysgu’r sgiliau digidol sydd mor bwysig y dyddiau hyn. Dwi’n edrych ymlaen at ddechrau fy label fy hun neu gael profiad diwydiant pan fydda i’n gorffen. Bydd yn deimlad braf pan fydda i wedi cwpla ond hefyd yn dipyn o golled!”

Ychwanegodd y myfyriwr Sheeza Ayub: “Rydych chi’n cael cymaint mwy allan o'r cwrs sylfaen hwn nag y byddech chi'n ei wneud ar gwrs gradd llawn. Mae gyda ni gymaint o offer o’r radd flaenaf i gyd o dan yr un to, ac rydyn ni’n dysgu cymaint o sgiliau, gan gynnwys sgiliau bywyd. Pan fydda i wedi gorffen, hoffwn ddechrau fy musnes ffasiwn fy hun, gan gynhyrchu gwisgoedd ar gyfer fin nos ac achlysuron."

Os hoffech chi mwy o wybodaeth ar gwrs Gradd Sylfaen mewn Ffasiwn a Dylunio Tecstilau ewch i https://www.gcs.ac.uk/cy/he-course/gradd-sylfaen-mewn-ffasiwn-a-dylunio-tecstilau

Tags: