Skip to main content

Myfyrwyr yn Cyrraedd Rownd Derfynol Her Menter Fyd-eang

Bydd myfyrwyr o Goleg Gŵyr Abertawe yn mynd i Gaerdydd yr wythnos nesaf i gystadlu yn erbyn yr holl golegau eraill yng Nghymru ar gyfer Her Menter Fyd-eang 2015.

Myfyrwyr galwedigaethol y Cyfryngau Creadigol Kieran Palfrey, Talisha Weston, Oliver Draper a’r myfyrwyr Safon Uwch Brad David, Rhys Cozens, Shazia Ali a Josh David-Reed oedd y tîm buddugol o gampws Gorseinon.

Mae’r Her Menter Fyd-eang yn gynllun a gymeradwyir gan Lywodraeth Cymru gyda’r nod o annog ysbryd a gweledigaeth entrepreneuraidd ymhlith pobl ifanc.

Pan fyddan nhw’n cyrraedd Caerdydd, bydd y myfyrwyr yn cael 24 awr i ddatblygu syniad busnes, cynllun busnes manwl a chynnig llif arian cyn dychwelyd y diwrnod canlynol i gyflwyno eu cynnig i banel o arbenigwyr.

Wrth baratoi at y digwyddiad hwn maen nhw wedi bod yn gweithio’n agos gyda Swyddog Menter y coleg Lucy Turtle a’r entrepreneur lleol a’r model rôl Ben Room sydd wedi bod yn rhoi cynghorion i’r grŵp ar farchnata, craffter busnes a sgiliau cyflwyno.

“Mae wedi bod yn brofiad bendigedig yn helpu ac yn gweithio gyda grŵp o bobl ifanc ymroddedig, blaengar ac ysbrydoledig” dywedodd Ben. “Dwi’n dymuno’n dda iddyn nhw yn rownd derfynol Cymru a dwi’n gwybod – ennill neu golli – y byddan nhw’n gwneud eu gorau glas.”

“Maen nhw wedi bod wrthi’n paratoi ar gyfer y rownd derfynol – maen nhw’n frwdfrydig, aeddfed ac yn amlwg mae gyda nhw’r gallu i fynd ymlaen i redeg busnesau yn y dyfodol. Dwi wrth fy modd eu bod nhw’n cynrychioli’r coleg yng Nghaerdydd yr wythnos nesaf,” ychwanegodd Lucy.

Bydd Rownd Derfynol yr Her Menter Fyd-eang yn cael ei chynnal ar 10 ac 11 Mawrth yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Llun: Victoria Gourlay