Skip to main content
Students celebrate offers to top universities

Myfyrwyr yn dathlu cynigion i’r prifysgolion gorau

Ch-Dde: Libby O'Sullivan, Ellen Jones, Edan Reid

Mae chwe myfyriwr Safon Uwch o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cael cynnig lleoedd i astudio ym Mhrifysgol Rhydychen neu Brifysgol Caergrawnt yn 2021.

“Ar ôl yr hyn a fu’n flwyddyn academaidd heriol iawn i bawb, rydyn ni’n falch iawn o’r  cynigion hyn, oherwydd mae’r myfyrwyr hyn wedi dod i Goleg Gŵyr Abertawe o bum ysgol uwchradd wahanol, ac maen nhw’n mynd i chwe Choleg gwahanol i astudio chwe phwnc hollol wahanol felly mae amrywiaeth go iawn yma, sydd bob amser yn dda i’w weld,” meddai’r Pennaeth Mark Jones.

“Mae’n arbennig o braf gan fod cyflwyno graddau a asesir yn y ganolfan wedi golygu bod hon yn flwyddyn hyd yn oed yn fwy cystadleuol i fyfyrwyr o ran sicrhau lleoedd yn y prifysgolion nodedig hyn.

Mae’r holl fyfyrwyr hyn yn dilyn Rhaglen Rhydgrawnt ar Gampws Gorseinon, sy’n ceisio darparu’r paratoad gorau posibl i fyfyrwyr sy’n bwriadu symud ymlaen i Rydychen, Caergrawnt a phrifysgolion Russell Group eraill.

Enw  

Ysgol Flaenorol

 Cynigiwyd lle yn

I astudio

Bethany Baljak   

Pontarddulais

Coleg Lucy Cavendish, Caergrawnt

Ieithyddiaeth

Emily Griffiths

Pontarddulais

Coleg St Hilda, Rhydychen

Archaeoleg Glasurol a Hanes yr Hen Fyd

Ellen Jones

Bryngwyn

Coleg St Anne, Rhydychen

Seicoleg Arbrofol

Libby O’Sullivan

Cwmtawe

Coleg Churchill, Caergrawnt

Y Gyfraith

Edan Reid

Penyrheol

Coleg Gonville a Caius, Caergrawnt

Milfeddygaeth

Jack Spiller

Olchfa

Coleg Christchurch, Rhydychen

Peirianneg

“Pan ges i fy nghynnig, doeddwn i ddim yn gallu credu’r peth,” dywedodd Libby O’Sullivan. “Roedd yn rhaid i mi gael fy nhad i’w ddarllen hefyd, i gadarnhau bod y peth yn wir! Dechreuodd y ddau ohonon ni neidio o gwmpas a sgrechian gyda chyffro. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â phobl newydd yng Nghaergrawnt ac wrth gwrs, y dyrnu! Hoffwn ddweud diolch yn fawr i Felicity Padley a Fiona Beresford o Goleg Gŵyr Abertawe am eu cymorth a’u cefnogaeth anhygoel ar hyd y ffordd.”

“O oedran ifanc iawn roeddwn i â’m bryd ar astudio milfeddygaeth ac mae cael cynigion i astudio’r cwrs yn wych - mae’r ffaith bod gen i gynnig gan Brifysfgol Caergrawnt i wneud hyn yn gyfle anhygoel,” ychwanegodd Edan. “Roeddwn i fel y gog pan ges i’r e-bost ond yn methu credu fy llygaid. Gobeithio y bydda i’n gallu cael y graddau gofynnol a chychwyn ar fy nhaith tuag at yr yrfa o’m dewis.”

“Roeddwn i’n falch iawn o dderbyn fy nghynnig gan Brifysgol Rhydychen, roedd yn bleser annisgwyl,” dywedodd Ellen. “Dwi’n edrych ymlaen at archwilio seicoleg yn llawer mwy manwl a datblygu fy niddordeb angerddol yn y pwnc. Mae’n ddisgyblaeth sy’n newid yn gyson a dwi’n gobeithio gweld hynny drosof fy hun wrth i mi astudio ymhellach. Yn y dyfodol, dwi’n gobeithio adnabod y maes penodol o seicoleg dwi’n ei garu a dilyn hwn ar lefel academaidd uwch trwy gwblhau gradd Meistr efallai.

Mae Rhaglen Rhydgrawnt y Coleg yn cynnwys sesiynau tiwtorial wythnosol, cyfweliadau paratoi gyda chyn-fyfyrwyr Rhydgrawnt a gweithwyr proffesiynol academaidd lleol, prawf gallu a pharatoi ar gyfer asesu mewn pynciau perthnasol.

Ar wahoddiad Prifysgol Caergrawnt, Coleg Gŵyr Abertawe yw’r unig sefydliad AB neu ysgol wladol yng Nghymru sydd wedi cael ei ddewis i redeg y rhaglen HE+. Gan weithio ochr yn ochr â Rhaglen Seren Llywodraeth Cymru mae HE+ yn ceisio datblygu sgiliau academaidd ac ysbrydoli myfyrwyr i anelu’n uchel wrth wneud eu dewisiadau prifysgol.