Skip to main content
Pennaeth, Mark Jones

Neges bwysig gan y Pennaeth, Mark Jones

Wrth i’r cyfnod clo byr ddod i ben, dyma wybodaeth bwysig ar gyfer yr amser pan fyddwch yn dychwelyd i’r Coleg yr wythnos nesaf.

O ddydd Llun 9 Tachwedd

Byddwn ni nawr yn ail-ddechrau ein dull addysgu wyneb yn wyneb ar gyfer ein holl fyfyrwyr amser llawn.

Os ydych chi’n fyfyriwr rhan-amser neu yn brentis, bydd eich cwrs yn ail-ddechrau fel yr oedd cyn y cyfnod clo byr.

Os ydych yn anicr ynghylch unrhyw fanylion mewn perthynas â’ch cwrs, cysylltwch â’ch tiwtor. Cofiwch ddarllen y porth myfyrwyr i gael gwybodaeth allweddol gan gynnwys cymorth lles.

Rydyn ni yma i’n cefnogi ein gilydd ac mae mor bwysig ein bod yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ac yn ein cadw ein gilydd yn ddiogel. Felly cyn yr wythnos nesaf, cofiwch y canlynol:

  • Cadwch bellter o 2 fetr i ffwrdd o bobl eraill
  • Golchwch eich dwylo’n rheolaidd a defnyddio’r hylif diheintio yn yr ystafelloedd dosbarth ac o gwmpas y campysau
  • Gwisgwch eich gorchudd wyneb mewn mannau cymunol neu leoedd cyhoeddus.

Os ydych yn teimlo’n dost,peidiwch â dod i’r Coleg, dylech drefnu prawf Covid-19 os oes gennych y symptomau canlynol:

  • peswch parhaus newydd
  • gwres uchel
  • colli neu newid yn eich gallu i arogli

Yn ogystal, dylech ymgyfarwyddo â’n fideo i’ch atgoffa o’r mesurau diogelwch rydym wedi’u cyflwyno yn y Coleg.

Os ydych yn ei chael yn anodd ar unrhyw adeg rhowch wybod i ni drwy gysylltu â’ch tiwtor personol neu unrhyw un o’r gwasanaethau cymorth drwy’r porth.

Bydd y Ganolfan Chwaraeon hefyd yn ail-agor o ddydd Llun 9 Tachwedd i staff a myfyrwyr. Mae aelodau o’r cyhoedd hefyd yn gallu defnyddio’r cyfleuster yn ystod yr amserau dynodedig canlynol.

I gael canllawiau cyffredinol ynghylch y rheolau Covid-19 a fydd ar waith o ddydd Llun 9 Tachwedd, ewch i dudalen Cwestiynau Cyffredin Llywodraeth Cymru.

Rydym i gyd yn y sefyllfa hon gyda’n gilydd ac rydym yma i’ch helpu i barhau i ddysgu.

Cymerwch ofal a chadw’n ddiogel.

Pennaeth, Mark Jones