Skip to main content
Student Awards 2022 / Gwobrau Myfyrwyr 2022

Noson o ddathlu - Gwobrau Myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe 2022

Roedd llawer o resymau i ddathlu yn nigwyddiad Gwobrau Myfyrwyr 2022.

Am y tro cyntaf ers y pandemig byd-eang, roedd y Coleg yn gallu cynnal seremoni wobrwyo wyneb yn wyneb i ddathlu llwyddiannau a chyflawniadau ei fyfyrwyr a’i staff.

A lle gwell i gynnal y digwyddiad na lleoliad mwyaf newydd y ddinas – Arena Abertawe.

Dychwelodd y cyflwynydd poblogaidd Kev Johns MBE i’r llwyfan i lywio’r noson, lle rhoddwyd gwobrau i fyfyrwyr o bob rhan o’r Coleg gan gynnwys cyrsiau Safon Uwch a galwedigaethol amser llawn, cyrsiau rhan-amser, prentisiaethau, addysg uwch, mynediad, a rhaglenni cymorth cyflogadwyedd.

“Mae Coleg Gŵyr Abertawe bob amser wedi mwynhau un o’r proffiliau o’r ansawdd uchaf o blith unrhyw sefydliad addysg, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU” meddai’r Pennaeth Mark Jones.

“Mae’r digwyddiad hwn bob amser wedi cael lle arbennig iawn yng nghalendr y Coleg. Ac nawr, ar ôl dwy flynedd heriol iawn, mae’n teimlo’n arbennig dros ben a dwi wrth fy modd y gallen ni ddathlu gyda’n gilydd wyneb yn wyneb.

“Mae’r noson yn dathlu llwyddiannau myfyrwyr ac yn cydnabod pawb sydd wedi chwarae rhan yn eu llwyddiant – darlithwyr, staff cymorth, teulu a ffrindiau. Hoffwn estyn fy llongyfarchiadau personol a diolch i’r dysgwyr hyn am fod yn fodelau rôl y bydd eraill yn dysgu ac yn elwa ohonyn nhw.”

Siaradwr gwadd y noson oedd Comisiynydd Plant Cymru Rocio Cifuentes MBE. Yn gyn-fyfyriwr y Coleg, astudiodd Rocio Wyddor Gymdeithasol a Gwleidyddol  ym Mhrifysgol Caergrawnt cyn cwblhau gradd Meistr ym Mhrifysgol Abertawe. Cyn ei phenodiad presennol, Rocio oedd Prif Weithredwr EYST Cymru ac mae hefyd wedi gwasanaethu fel Aelod Pwyllgor Cymru o’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Roedd y digwyddiad yn arddangosiad ymarferol o dalent myfyrwyr hefyd, gydag adloniant yn cael ei ddarparu gan fyfyrwyr Effeithiau Arbennig Theatraidd, Gwallt a Cholur y Cyfryngau – a berfformiodd sioe arbennig ‘Creaduriaid y Goedwig’ i’r gwesteion – a pherfformiad gan FSHTANK, sy’n cynnwys myfyrwyr cerddoriaeth galwedigaethol o Gampws Llwyn y Bryn.

Perfformiodd cyn-fyfyriwr arall – Ify Iwobi – y darn cerddorol agoriadol. Mae Ify yn bianydd, yn gyfansoddwr caneuon, ac yn gynhyrchydd cyfoes Cymreig/Nigeriaidd arobryn sydd wedi perfformio ar draws y byd.

Rhoddwyd sylw i waith da elusen y Coleg, Prosiect Cenia, yn ystod y nos hefyd. Daeth Llywydd Undeb y Myfyrwyr Maria Pollard a’r cyn-fyfyriwr Nina Prells i’r llwyfan i sôn am ymdrechion codi arian gwych staff a myfyrwyr y Coleg, sydd wedi cefnogi Ysgol Gynradd Madungu yng Ngorllewin Cenia ers 2003.

Rhestr lawn o enillwyr a noddwyr 2022