Skip to main content
Prif Weinidog yn cydnabod gwaith myfyriwr Abertawe

Prif Weinidog yn cydnabod gwaith myfyriwr Abertawe

Nid bob dydd rydych chi’n derbyn llythyr personol gan Brif Weinidog Prydain ond dyna’n union beth ddigwyddodd i Sophie Billinghurst, myfyriwr Coleg Gŵyr Abertawe yn ddiweddar.

Roedd Sophie, sy’n astudio Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar Gampws Tycoch, wedi synnu ar ôl darganfod ei bod wedi cael ei dewis fel un o ‘Points of Light’ y DU i gydnabod ei gwaith yn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd iaith arwyddion.

Mae ‘Points of Light’ yn wirfoddolwyr unigol rhagorol sy’n gwneud newid yn eu cymuned.

“Pan wnes i ddarganfod fy mod i wedi cael fy newis ar gyfer y wobr, roeddwn i’n methu credu’r peth,” dywedodd Sophie. “Doedd hi ddim yn teimlo’n real nes i mi dderbyn y llythyr gan Boris Johnson, a fy nhystysgrif.”

Dechreuodd Sophie ddysgu iaith arwyddion gyntaf yn 2015 ar ôl cael ei hysbrydoli gan ei chwaer iau, sydd â cholled clyw, ac ymuno ag elusen leol - Talking Hands yn Hafod – gyda’i theulu.

Yn 2018, roedd Sophie wedi cwblhau cymhwyster swyddogol yn Iaith Arwyddion Prydain Lefel 1 ac mae’n awyddus i barhau i’r lefel nesaf pan fydd y cyfyngiadau Covid cyfredol yn cael eu codi. Yn yr un flwyddyn, etholwyd Sophie yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, lle roedd wedi parhau i eirioli ar ran pobl sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw.

Mae Sophie yn teimlo’n gryf iawn y dylai pawb fod â gwybodaeth sylfaenol am iaith arwyddion ac y dylai fod ar gwricwlwm yr ysgol. Fel rhan o’i gwaith gyda Talking Hands, mae  wedi ymuno â grŵp o’r enw Deffo sydd â’r nod o ehangu addysgu iaith arwyddion i ysgolion.

“Byddai’n gwneud cymaint o wahaniaeth i ddiwrnod rhywun sy’n defnyddio arwyddion a byddai’n gwneud bywyd gymaint yn haws iddyn nhw,” dywedodd. “Dydy pawb ddim yn mynd i fynd i Ffrainc neu Sbaen ond rydyn ni’n dal i ddysgu’r ieithoedd hynny yn yr ysgol - ac eto bydd pawb yn cwrdd ag o leiaf un person yn ystod eu bywyd sy’n dibynnu ar iaith arwyddion.”

Yn ei lythyr, dywedodd y Prif Weinidog:

“Cefais fy ysbrydoli i glywed am eich stori bersonol eich hun yn dysgu iaith arwyddion ac yn ei defnyddio yn Senedd Ieuenctid Cymru. Mae’ch gwaith eirioli gyda Talking Hands yn ffordd wych o chwalu’r rhwystrau i gynhwysiant. Rydych yn dangos i bobl ifanc sydd â cholled clyw, fel eich chwaer, eu bod yn rhan o sgwrs y genedl.”

Ar ôl Coleg, hoffai Sophie symud ymlaen i yrfa fel nyrs bediatrig neu fydwraig lle byddai’n gallu defnyddio ei sgiliau arwyddo, gan helpu pobl i gael yr wybodaeth iawn ar yr adeg iawn.

***

‘Points of Light’ y DU
Mae ‘Points of Light’ yn wirfoddolwyr unigol rhagorol sy’n gwneud newid yn eu cymuned. Bob diwrnod yn ystod yr wythnos, mae’r Prif Weinidog yn cydnabod gwirfoddolwr ysbrydoledig gyda’r wobr ddyddiol ‘Point of Light’.

Fe’i sefydlwyd gyntaf gan yr Arlywydd George H. W. Bush ym 1990, ac mae dros 6,000 o ‘Points of Light’ wedi cael eu cydnabod yn UDA. Datblygwyd ‘Points of Light’ y DU mewn partneriaeth â rhaglen UDA a’i lansio yn Ystafell y Cabinet yn 10 Downing Street ym mis Ebrill 2014.

Ers hynny mae cannoedd o bobl wedi cael eu henwi’n ‘Points of Light’ gan y Prif Weinidog, gan dynnu sylw at amrywiaeth enfawr o wirfoddoli arloesol ac ysbrydoledig ar hyd a lled Prydain.

Gan wneud popeth o fynd i’r afael â throseddau cyllyll, i gefnogi teuluoedd cleifion dementia, mae ein ‘Points of Light’ yn y DU yn arwyr codi arian, codi ymwybyddiaeth, datrys problemau ac roedd pob un wedi cael syniad y penderfynodd ei wireddu. Mae eu gweithredoedd wedi newid bywydau a gall eu straeon ysbrydoli miloedd yn fwy i gymryd rhan neu ddechrau eu mentrau eu hunain.