Skip to main content

Sefydliad City & Guilds a Choleg Gŵyr Abertawe yn lansio prosiect arloesol gwerth £100k i helpu pobl ifanc mewn perygl i gael gwaith

Mae Sefydliad City & Guilds a Choleg Gŵyr Abertawe wedi ymrwymo i bartneriaeth strategol newydd i gynorthwyo dysgwyr sydd mewn perygl o roi’r gorau i addysg, goresgyn rhwystrau a dod o hyd i ffyrdd cadarnhaol o ennill sgiliau a gwaith parhaus.

Bydd y cyllid yn rhoi hyd at 200 o bobl ifanc drwy raglen cymorth Pontio ac Ymgysylltu, gyda’r nod o godi dyheadau a helpu dysgwyr difreintiedig ac sydd wedi ymddieithrio i ddatblygu a gwella eu sgiliau presennol i’w paratoi ar gyfer byd gwaith.

Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar unigolion sydd wedi gadael cyrsiau amser llawn a bydd yn eu hailgyfeirio trwy gymorth dilyniant i brentisiaethau a chyfleoedd cyflogaeth eraill. Yn ogystal â sesiynau ymgysylltu rheolaidd, bydd Coleg Gŵyr Abertawe yn lansio Bŵt-camps Gyrfa; atebion mentora byr, pwrpasol i helpu i ehangu cwmpas y cyfleoedd dilyniant sydd ar gael i’r bobl ifanc ar y rhaglen Pontio.

Bydd y rhaglen yn cael ei lansio gyda Rhaglen Haf, a fydd yn helpu pobl ifanc yn ystod gwyliau’r ysgol i fagu hyder a chadw eu diddordeb yn ystod y cyfnod pontio hollbwysig hwn yn nghylch bywyd eu haddysg, wrth adael yr ysgol a symud i addysg bellach.

Heb fawr o amheuaeth mae’r pandemig wedi cyfrannu’n sylweddol at y nifer gynyddol o unigolion agored i niwed yng nghymuned Coleg Gŵyr Abertawe, fel y mae mewn colegau ledled y DU. Er enghraifft, nid yw’r garfan bresennol o fyfyrwyr blwyddyn gyntaf y Coleg wedi profi dysgu wyneb yn wyneb parhaus ers Blwyddyn 9 – pan oeddent yn 14 neu 15 oed. O ganlyniad, mae rhai dysgwyr yn cyrraedd gyda sgiliau cymdeithasol gwael ac ni allant ryngweithio â chyfoedion. Mae niferoedd cynyddol o ddysgwyr agored i niwed hefyd gyda phroblemau gorbryder, dysgwyr heb y gallu i reoli eu hamser yn effeithiol neu drefnu eu gwaith – ac mae Covid wedi gwaethygu hyn oll.

Mae’r bartneriaeth hon rhwng Sefydliad City & Guilds a Choleg Gŵyr Abertawe yn gobeithio ysbrydoli pobl ifanc a chynyddu eu dyheadau i aros mewn addysg neu symud ymlaen i’w gyrfa, a fyddai yn ei dro yn arwain at ostyngiad yn nifer y bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) ar lefel leol, yn enwedig i’r bobl ifanc hynny rhwng 16-19 oed.

Dywedodd Kirstie Donnelly, Prif Swyddog Gweithredol City & Guilds: “Dwi’n falch dros ben o lansio’r bartneriaeth newydd hon gyda Choleg Gŵyr Abertawe ar adeg pan mae cynifer o bobl ifanc yn wynebu heriau difrifol. Mewn cyfnod o galedi cynyddol, mae’n fwy pwysig nag erioed i bobl feddu ar y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i allu manteisio ar yr holl gyfleoedd gwaith sydd ar gael yn y farchnad lafur. Rydyn ni’n gobeithio gweld effaith sylweddol ar ddysgwyr unigol, ond hefyd yr effaith o ganlyniad ar fusnesau lleol a’r economi leol.”

Dywedodd Caryn Morgan, Rheolwr Ymgysylltu NEET yng Ngholeg Gŵyr Abertawe: “Rydyn ni’n falch iawn o fod yn gweithio gyda City & Guilds ar y prosiect newydd cyffrous hwn i gynorthwyo pobl ifanc sydd mewn perygl o ddod yn NEET. Mae ein Rhaglen Haf wedi bod yn boblogaidd iawn ymhlith ymadawyr ysgol sydd wedi cymryd rhan mewn rhaglen o weithgareddau drwy gydol Gorffennaf/Awst gyda’r nod o gefnogi eu cyfnod pontio i addysg ôl-16.

“Ar y cyd â City & Guilds a thrwy gymorth Cronfa Pontio Sgiliau Llywodraeth Cymru, bydd Mentoriaid Pontio ac Ymgysylltu’r Coleg yn parhau i weithio gyda’r bobl ifanc mwyaf agored i niwed drwy gydol y flwyddyn academaidd, gan eu helpu i gwblhau’r cwrs o’u dewis neu eu cynorthwyo i archwilio llwybrau eraill.”

Rhagor o wybodaeth:

Fel gyda phob rhaglen a ariennir gan Sefydliad City & Guilds, byddwn yn olrhain effaith y cyllid yn agos trwy Fframwaith mesur effaith City & Guilds.

Nod y Gronfa Bontio Gritigol, a ddyluniwyd gan Sefydliad City & Guilds yw:

  • Cynorthwyo pobl ddifreintiedig sydd mewn perygl o ddiweithdra i drosglwyddo i gyflogaeth o ansawdd uchel a dangos ei werth i’r economi leol a chenedlaethol.
  • Tystiolaeth o ddulliau newydd effeithiol ar gyfer cynorthwyo grwpiau difreintiedig i drosglwyddo i gyflogaeth.
  • Cynorthwyo pobl ifanc dan anfantais i symud i gyflogaeth mewn diwydiannau lle mae bwlch sgiliau lleol a chefnogi ymdrechion cenedlaethol i fynd i’r afael â bylchau sgiliau hanfodol.
  • Cynorthwyo’r rhai sydd wedi colli neu sydd mewn perygl o golli eu swyddi o ganlyniad i’r pandemig i drosglwyddo i yrfaoedd newydd. Gallai hyn gynnwys y rhai a oedd yn hyfforddi ar gyfer cyflogaeth mewn diwydiant penodol yr effeithiwyd arno i ystyried llwybrau hyfforddi eraill.

Dysgwch ragor am Sefydliad City & Guilds yma.