Skip to main content

Ffair Sborion Beiciau - Dydd Sul 5 Chwefror

Dewch yn llu i’n ffair sborion beiciau yn ystod ein Penwythnos Iechyd a Lles.

Prynwch neu gwerthwch unrhyw beth sy’n ymwneud â seiclo… o feiciau heol, BMX, MTB, i feiciau cymudo neu hamdden.

Ydych chi am werthu neu brynu:

  • Beiciau neu rannau anghyffredin neu ail-law
  • Beiciau modern ail-law
  • Rhannau, offer, dillad a chyfarpar ail-law neu newydd
  • Offer sy’n ymwneud â beicio

Dyma gyfle gwych i’r rhai sydd am werthu cyfarpar beicio ail law ac i’r rhai sy’n chwilio am fargen.

Os ydych chi am ennill rhywfaint o arian neu’n dymuno cynilo ar gyfer prynu cyfarpar beicio, dewch draw i Ffair Sborion Beiciau Coleg Gŵyr Abertawe:

Dydd Sul 5 Chwefror 2023. 8am-12pm.

Neuadd Chwaraeon Tycoch.

Gwybodaeth i Werthwyr

  • Bwcio lle - £10.00
  • Bwrdd - £5.00 (neu dewch â’ch bwrdd eich hun)
  • Amser paratoi - 7am, yn barod ar gyfer agor i gwsmeriaid am 8am.
  • Digon o fannau parcio ar gael sy’n agos i’r neuadd, fel gallwch baratoi mewn da bryd
  • Bwciwch ar-lein trwy Eventbrite i sicrhau lle

Gwybodaeth i Brynwyr

  • Tocynnau i gael mynediad cynnar, 8-9am - £2.00, (bydd y ffioedd yn cael eu rhoi i Llys Nini)
  • Mynediad am ddim ar ôl 9am
  • Diodydd poeth AM DDIM i bawb sy’n seiclo yma. Bydd digon o fannau storio diogel ar y safle ar gyfer y beiciau, a byddwn yn cadw eich nwyddau nes y byddwch yn barod i’w casglu’r diwrnod canlynol - felly gwnewch yn siŵr bod aelod o’ch tîm yn barod i alw heibio

Ar gyfer ymholiadau masnachu neu am wybodaeth bellach, e-bostiwch: sportscentre@gcs.ac.uk

Cadwch le i werthu yma

Cliciwch yma i weld beth arall sy’n digwydd yn ystod y Penwythnos Iechyd a Lles