Skip to main content
Certificate at Cambridge

Sylw anrhydeddus gan Gaergrawnt!

Mae Legolas, un o’n myfyrwyr rhyngwladol blwyddyn 1af, wedi derbyn sylw anrhydeddus gan Adran Gymdeithaseg Gaergrawnt am ei gyfraniad i’r gystadleuaeth ffotograffiaeth. Thema’r gystadleuaeth oedd Seicoleg Gwytnwch.

Tynnwyd llun Legolas ym mae prydferth Caswell, Abertawe, ar ddiwrnod allan gyda’i deulu homestay. Mae e’n hynod o falch bod ei waith wedi cael ei enwebu a’i gydnabod gan brifysgol mor enwog.

Mae Legolas hefyd yn rhan o’r Rhaglen Paratoi ar gyfer Rhydygrawnt ac roedd yn falch iawn o dderbyn tystysgrif yn bersonol gan Dr Sara Owen o Goleg Fitzwilliam, Caergrawnt, ar ymweliad diweddar i’r brifysgol. Cafodd gyfle i gael sgwrs un-i-un a chasglu gwybodaeth ar gyfer ei darpar gais. Dywedodd Fiona Beresford, ein Cydlynydd Rhydygrawnt “Roedd gwaith Legolas yn hollol wych ac mi ddylai fod yn falch iawn o’r darn gorffenedig. Dyma gyflawniad anhygoel.”

Mae’r Tîm Rhyngwladol hefyd yn hapus iawn ac maent yn gobeithio y bydd llwyddiant Legolas yn ysbrydoli myfyrwyr rhyngwladol eraill i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol ac uwch-gwricwlaidd, wrth astudio gyda ni.