Skip to main content
Grŵp o fyfyrwyr yn Stryd Downing

Taith annisgwyl i Stryd Downing i fyfyrwyr

Yn ddiweddar, aeth ein myfyrwyr Safon UG Llywodraeth a Gwleidyddiaeth i Lundain lle gwelon nhw ambell i olygfa enwog iawn.

Roedd yn ddiwrnod llawn gweithgareddau. Gan gychwyn o Abertawe am 5.30am, ymwelodd y myfyrwyr â Goruchaf Lys y DU a mwynhau taith o gwmpas Whitehall.

Cawson nhw eu tretio hefyd i daith o gwmpas y Senedd gan gynnwys Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi. Cafwyd gweithdy ar wneud cyfreithiau ar ddiwedd y daith, wedi’i ddilyn gan sesiwn holi ac ateb gydag AS Gŵyr Tonia Antoniazzi.

Ond uchafbwynt y dydd mae’n debyg oedd ymweliad â Stryd Downing, gyda chyfle ar gyfer lluniau y tu allan i ddrws ffrynt enwog iawn Rhif 10. Cafodd hyn ei drefnu’n gyfrinachol gan yr Arweinydd Cwricwlwm Scott Evans ac roedd yn syndod llwyr i’r staff a’r myfyrwyr.

“Roedd y daith hon yn llwyddiant mawr i’n myfyrwyr, ac yn gyfle iddyn nhw ymgysylltu â’r sefydliadau allweddol y maen nhw’n eu hastudio ar y cwrs,” meddai Scott. “Roedden ni’n gallu ymweld â phileri allweddol system lywodraethol y DU a bydd hyn yn hynod fuddiol i’n dysgwyr, gan gyfoethogi eu hastudiaethau o’r pwnc yn y dosbarth trwy brofiad. Creodd yr ymweliad annisgwyl â Stryd Downing, yn arbennig, wefr a phrofiad gwych a fydd yn byw yn hir yn eu hatgofion. Pwy a ŵyr, yn ein plith ni y diwrnod hwnnw, efallai ein bod ni wedi ysbrydoli un o drigolion nesaf y cyfeiriad enwog!”