Togetherall - cymuned ddiogel, anhysbys ar gyfer cymorth iechyd meddwl 24/7


Diweddarwyd 24/09/2020

Iechyd, diogelwch a lles ein myfyrwyr yw ein prif flaenoriaeth, ac rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd i’w helpu. Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod bellach yn cynnig gwasanaeth cymorth ardderchog ar-lein o’r enw Togetherall.

Mae Togetherall yn cynnig cymuned ddiogel ac anhysbys i gysylltu â hi o unrhyw le, ar unrhyw adeg - p'un a oes angen i fyfyrwyr fwrw eu bol, cael sgyrsiau, mynegi eu hunain yn greadigol neu ddysgu sut i reoli eu hiechyd meddwl. Mae’r platfform yn cael ei fonitro gan glinigwyr hyfforddedig 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn.

Am fwy o wybodaeth, gwyliwch ein fideo YouTube Togetherall.

Tags: