Skip to main content
Economics essay shortlist for Emily

Traethawd economeg Emily ar y rhestr fer

Mae myfyrwraig o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghystadleuaeth draethawd agoriadol Cymdeithas Plwraliaeth Economaidd Caergrawnt (CSEP), sydd yn agored i fyfyrwyr Safon UG ar draws y DU.

Mae Emily Lewis-Tasi yn astudio mathemateg, daearyddiaeth ac economeg ar gampws Gorseinon. Roedd ei thraethawd – sy’n dwyn y teitl 'What lessons, if any, has economics learnt from the 2008 financial crisis?' – yn un o dim ond pump o geisiadau a roddwyd ar y rhestr fer gan yr economegydd byd-enwog Ha-Joon Chang a nawr bydd yn cael ei gynnwys yng Nghylchgrawn Blynyddol CSEP 2016.

“Dyma flwyddyn gyntaf y gystadleuaeth, ac felly rydyn ni wrth ein bodd i gael myfyrwraig ddawnus fel Emily i’n cynrychioli – mae creu argraff ar rywun mor enwog â Ha-Joon Chang yn gyflawniad anhygoel,” dywedodd Rheolwr y Maes Dysgu Bruce Fellowes. “Roedd Emily yn cystadlu ochr yn ochr â myfyrwyr eraill o ysgolion fel Eton ac felly bydd y llwyddiant hwn yn gymorth mawr iddi pan fydd hi’n gwneud cais i’r brifysgol, lle mae hi’n gobeithio astudio economeg.”