Skip to main content

Trefniadau dechrau’r tymor i gyflogwyr a darparwyr seiliedig ar waith

Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu pob un o’n dysgwyr yn ôl i’r Coleg.

Gan weithio’n agos o fewn y canllawiau a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru a’n tîm iechyd cyhoeddus lleol yn Abertawe, byddwn ni’n parhau i flaenoriaethu addysgu wyneb yn wyneb cymaint ag sy’n bosibl, a chymryd cam positif tuag at leihau trosglwyddo’r feirws.

Dysgu yn y Coleg
Bydd addysgu/diwrnodau astudio i ddysgwyr yn aros yr un fath oni bai bod staff y Coleg yn dweud fel arall. 

Ar gyfer ein holl ddysgwyr (gan gynnwys prentisiaid) byddwn ni’n defnyddio model grŵp cyswllt a ddefnyddion ni yn llwyddiannus yn 2020.

Mae hyn yn golygu y bydd dysgwyr gyda’i gilydd yn eu grwpiau cyswllt hyfforddi drwy gydol y dydd ac ni fyddan nhw’n cymysgu â grwpiau eraill. 

Yn ogystal, byddwn ni’n gobeithio lleihau cyswllt o fewn y grwpiau hyn – er enghraifft, defnyddio’r ystafell ddosbarth gyfan a chadw at bellter o ddau fetr pan fydd hi’n bosibl.

Ymweliadau ac asesiadau gweithle
Bydd ymweliadau gweithle yn digwydd ar gyfer arsylwi ac asesiadau hanfodol yn unig fel rhan o’r brentisiaeth neu raglenni hyfforddi seiliedig ar waith eraill. 

Bydd adolygiadau cynnydd a gweithgareddau eraill yn cael eu cynnal o bell drwy alwad fideo. Yn Lloegr, gallwn ni barhau i ymweld â gweithleoedd ar gyfer gweithgareddau addysgu ac asesu. 

Gallwn ni barhau i recriwtio prentisiaid a dysgwyr seiliedig ar waith o bell drwy alwad fideo.

Newidiadau yng ngoleuni’r brechiadau
Mae un newid pwysig ers hydref 2020. 

Oherwydd y cynnydd mewn brechiadau, os ydynt yn dod i gyswllt ag achos positif, ni fydd rhaid i fyfyrwyr hunanynysu os ydynt dan 18 oed ac wedi cael y ddau frechiad. 

Os oes symptomau gan unrhyw fyfyriwr neu os yw wedi cael prawf positif bydd rhaid i’r myfyriwr hunanynysu a dilyn cyngor gan wasanaeth Tracio, Olrhain a Diogelu GIG.

Mae symptomau’n cynnwys:
tymheredd uchel
peswch newydd, parhaus
colli’r gallu i arogli neu flasu

Gorchuddion wyneb
Rhaid i’r holl fyfyrwyr wisgo gorchuddion wyneb yn yr ystafell ddosbarth ac yn y mannau cymunol oni bai eu bod yn cadw pellter cymdeithasol neu wedi’u heithrio.
 
Yn achos asesiadau sy’n dod, nid oes rhaid gwisgo gorchuddion wyneb os yw’n bosibl cadw pellter cymdeithasol. Fodd bynnag, os yw’r asesiadau’n digwydd yn y dosbarth, rhaid gwisgo gorchuddion wyneb, oni bai bod y myfyrwyr wedi’u heithrio.

Awyru, glanhau a phrofi
Byddwn ni’n dilyn y Canllawiau ar gyfer Colegau a’r Fframwaith Rheoli Diwygiedig, a byddwn ni hefyd yn canolbwyntio ar awyru a glanhau. 

Byddwn ni’n parhau i annog myfyrwyr i olchi a diheintio eu dwylo’n rheolaidd.

Byddwn ni’n annog staff a myfyrwyr i ddefnyddio profion llif unffordd yn rheolaidd (tair gwaith yr wythnos). Mae’r rhain i’w cael yn llyfrgelloedd y Coleg ar ddechrau ac ar ddiwedd y diwrnod Coleg.

Wrth gwrs, gallai’r sefyllfa hon newid ar unrhyw adeg yn enwedig os bydd rhaid i rai o’n staff hunanynysu. Os digwydd hyn, efallai y bydd rhaid i ni ddefnyddio dull addysgu mwy cyfunol neu ar-lein.

Cyfleusterau arlwyo 
Am amrywiaeth o resymau, mae cyfleusterau arlwyo ar y campws yn debygol o fod yn gyfyngedig. Rydyn ni’n annog staff a myfyrwyr i ddod â’u ciniawau/byrbrydau eu hunain gyda nhw os yw’n bosibl.

Rydyn ni’n parhau i gadw cyswllt rheolaidd â Llywodraeth Cymru ac os oes unrhyw newidiadau pellach – gan gynnwys newidiadau i asesiadau – byddwn ni’n rhoi gwybod i chi wrth gwrs.

Diolch am eich cymorth a’ch dealltwriaeth barhaus.

Mark Jones, Pennaeth