Skip to main content

Wythnos Prentisiaethau Cymru 2021 - Sesiynau Gwybodaeth

Nod Wythnos Prentisiaethau Cymru yw taflu goleuni ar y gwaith anhygoel sy’n cael ei wneud gan gyflogwyr a phrentisiaid ledled y wlad.

Bydd Wythnos Prentisiaethau Cymru yn cael ei chynnal eleni o ddydd Llun 8 Chwefror i ddydd Sul 14 Chwefror.

Mae’r dathliad blynyddol yn gyfle i arddangos sut mae prentisiaethau wedi helpu busnesau ac unigolion o safbwynt cyflogaeth a datblygu sgiliau.

___________

Trwy gydol Wythnos Prentisiaethau Cymru, byddwn yn cynnal ystod eang o wybodaeth rithwir a sesiynau Holi ac Ateb ar draws amrywiaeth o feysydd gwahanol.

Bydd gennym hefyd sesiynau sydd wedi cael eu recordio ymlaen llaw ar wefan YouTube swyddogol Coleg Gŵyr Abertawe, ac mi fyddan nhw’n cael eu cyhoeddi ar ddechrau’r wythnos. Gallwch eu gwylio yma.

Bydd ystafelloedd sgwrsio prentisiaethau hefyd ar gael drwy gydol yr wythnos, drwy glicio ar yr eicon glas bach ar y dde ar waelod y wefan.

Bydd pob un o’n sesiynau byw yn cael eu cynnal ar Microsoft Teams. Gweler y dolenni i bob sesiwn isod.

Amserlen

Dydd Llun 8 Chwefror

Dydd Mawrth 9 Chwefror

Dydd Mercher 10 Chwefror

Dydd Iau 11 Chwefror

Dydd Gwener 12 Chwefror

Mae'r rhaglen Prentisiaethau wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.