Skip to main content
Y Diweddaraf gan y Pennaeth Mark Jones (22 Medi)

Ein hymateb parhaus i Covid-19: Y Diweddaraf gan y Pennaeth Mark Jones (22 Medi)

Mae’r Pennaeth Mark Jones yn myfyrio ar ddechrau tymor yr hydref, gan ganmol myfyrwyr a staff am eu cydweithrediad, ac mae’n egluro sut mae’r Coleg yn parhau i sicrhau bod iechyd a diogelwch yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth. Wrth i ni ddechrau pedweredd wythnos y tymor, mae’n ymddangos yn amser da i fyfyrio ar sut mae pethau wedi mynd hyd yn hyn yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Yn gyntaf, hoffwn ddweud diolch yn fawr i’n holl fyfyrwyr a staff am eu cydweithrediad wrth i ni lywio ein ffordd trwy flwyddyn academaidd sy’n wahanol iawn i unrhyw flwyddyn rydym wedi’i adnabod o’r blaen. Mae aros gyda’n gilydd mewn swigod grwpiau cwrs bach, gwisgo gorchuddion wyneb mewn mannau cymunol a chadw at systemau unffordd newydd y Coleg a mesurau hylendid manylach wedi sicrhau ein bod wedi gallu parhau i ddarparu addysgu wyneb yn wyneb ar gyfer y rhan fwyaf o fyfyrwyr amser llawn ar draws y campysau. Er bod ysgolion yn cadw eu disgyblion gyda’i gilydd mewn grwpiau blwyddyn gyfan, mae’r Coleg wedi penderfynu chwarae pethau ychydig yn wahanol trwy gyflwyno grwpiau cyswllt cwrs llai o faint. Felly pe bai achos o Covid wedi’i gadarnhau yn y Coleg, dim ond ynysu’r grŵp dosbarth penodol hwnnw y byddai angen i ni ei wneud. Ond mae rhaid i ni aros yn wyliadwrus a bod yn hyblyg a, beth bynnag a wynebwn yn y dyfodol, rydym yn ffyddiog y bydd aflonyddwch i’n myfyrwyr yn cael ei leihau cymaint ag sy’n bosibl. Os bydd canllawiau swyddogol Llywodraeth Cymru yn newid, mae eisoes gennym Gynllun B a fyddai’n gweld myfyrwyr yn newid i ddull dysgu ac addysgu mwy cyfunol, gyda chyfuniad o addysgu wyneb yn wyneb ac ar-lein, a weithiodd yn dda iawn ar ddechrau’r flwyddyn. Os ydych chi’n dal heb benderfynu beth i’w wneud eleni - ac mae llawer i feddwl amdano rydyn ni’n gwybod - gallwch chi siarad â’n tîm Derbyn. Mae gennym ni leoedd ar gael ar amrywiaeth o gyrsiau amser llawn gan gynnwys Safon Uwch, arlwyo, peirianneg, y celfyddydau perfformio, gwasanaethau cyhoeddus a busnes. E-bostiwch admissions@gcs.ac.uk neu ffoniwch 01792 284000 i wybod rhagor.