Skip to main content
Students listening to talk / Myfyrwyr yn gwrando ar anerchiad

Yr Arglwydd Brif Ustus yn cynnig cyfle i ddysgwyr glywed gan farnwyr

Daeth y barnwr uchaf yng Nghymru a Lloegr i Goleg Gŵyr Abertawe heddiw. Roedd yno i roi cyfle i’r myfyrwyr glywed am waith barnwyr, y system gyfiawnder a rheolaeth y gyfraith.

Ymwelodd yr Arglwydd Burnett o Maldon, Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr â’r Coleg fel rhan o raglen ymgysylltu ysgolion y mae barnwyr yn ymwneud â hi ledled y wlad.

Wrth siarad yn y Coleg, dywedodd yr Arglwydd Brif Ustus:

“Mae rheolaeth y gyfraith yn hanfodol i’n ffordd o fyw ym Mhrydain. Bob dydd, mae miloedd lawer o farnwyr yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar fywydau pobl, a’u bywoliaeth. Ond nid oes gan y mwyafrif o bobl fawr o syniad beth sy’n digwydd yn y system oni bai eu bod nhw ynddi eu hunain.

“Dwi eisiau ei gwneud hi’n haws i ysgolion helpu i addysgu disgyblion am y system gyfiawnder, a sut mae’n gweithio mewn gwirionedd – dwi eisiau gwahodd myfyrwyr i siarad â ni am ein gwaith. Rydyn ni’n gwybod eisoes bod myfyrwyr ysgol wrth eu boddau yn cael trafodaeth â barnwr go iawn. Dwi eisiau sicrhau bod y cyfle hwn ar gael yn ehangach i ysgolion drwy ofyn iddyn nhw ystyried gwahodd barnwyr i ymweld a rhoi mynediad at adnoddau eraill sy’n ategu eu cwricwlwm, a’u sgyrsiau gyda myfyrwyr am yrfaoedd.

“Mae barnwyr o bob cefndir ac ar lefelau amrywiol i’w cael mewn llysoedd a thribiwnlysoedd. Dwi hefyd eisiau dweud wrth yr holl fyfyrwyr, o ba gefndir bynnag, y gallen nhw fod yn gyfreithwyr a barnwyr y dyfodol.”

Mae adnoddau ar-lein yn ategu’r rhaglen ymgysylltu ysgolion ac maen nhw ar gael i ysgolion a myfyrwyr ar wefan y farnwriaeth - mae’r rhain yn cynnwys nodiadau ar gyfer gwersi, ffeithlenni ac adnoddau eraill i helpu ysgolion i hwyluso dysgu am system gyfiawnder a rheolaeth y gyfraith.

Daw’r ymweliad yn sgil gwaith y mae llawer o Farnwyr Amrywiaeth a Chysylltiadau Cymunedol ac ynadon eisoes yn ei wneud yn y gymuned; mae’r Arglwydd Brif Ustus yn gobeithio y bydd eu gwaith – sydd fel arfer yn anweledig a di-glod – yn helpu i annog myfyrwyr o bob cefndir i ystyried gyrfa yn y system gyfiawnder.

Mae ysgolion sydd am ofyn i farnwr siarad â myfyrwyr yn gallu gwneud hynny drwy fynd i: https://www.judiciary.uk/about-the-judiciary/diversity/schools-engagement/ neu anfon e-bost i schools@judiciary.uk

NODIADAU I OLYGYDDION

  1. Daeth yr Arglwydd (Ian) Burnett o Maldon i swydd yr Arglwydd Brif Ustus yng Nghymru a Lloegr ym mis Hydref 2017. Cyn hynny, roedd Syr Ian Burnett (fel y’i gelwid bryd hynny) yn Arglwydd Ustus yn y Llys Apêl.
  2. Roedd yn ymweld â Choleg Gŵyr Abertawe, Campws Gorseinon, Heol Belgrave, Gorseinon, SA4 6RD
  3. Mae lluniau o’r digwyddiad ar gael yn  https://www.flickr.com/photos/judiciaryuk/albums/72177720305202136
  4. Mae rhagor o wybodaeth am farnwyr Amrywiaeth a Chysylltiadau Cymunedol ar gael yn www.judiciary.uk
  5. Dylid cyfeirio ymholiadau’r wasg at Michael.Duncan@judiciary.uk neu ffonio 020 7073 4852.