
Mae Coleg Gŵyr Abertawe a The Secret Hospitality Group yn falch o gyhoeddi lansiad eu partneriaeth newydd sbon: Academi The Secret Hospitality Group x Coleg Gŵyr Abertawe, menter ddeinamig sydd â’r nod o ysbrydoli, datblygu a meithrin talent newydd yn y diwydiant lletygarwch.
Mae’r bartneriaeth hon yn bwriadu codi proffil lletygarwch fel dewis gyrfa gwerth chweil wrth greu llwybrau uniongyrchol i ddysgwyr.
Bydd yr Academi yn gwasanaethu fel llwyfan pwrpasol ar gyfer datblygu sgiliau ac arbenigedd lletygarwch hanfodol. Trwy ymuno â’i gilydd, bydd y ddau sefydliad yn rhannu gwybodaeth, arferion gorau ac adnoddau unigryw i wella profiad dysgu’r myfyrwyr a’u paratoi ar gyfer byd diwydiant.
Mae amcanion allweddol yr Academi yn cynnwys:
- Codi proffil gyrfaoedd lletygarwch: Arddangos amrywiaeth a chyfleoedd o fewn y sector trwy ymgysylltu â’r gymuned a straeon llwyddiant sy’n herio camdybiaethau cyffredin.
- Creu cyfleoedd i ddysgwyr: Cynnig cyfleoedd profiad gwaith ymarferol, cyflogaeth â thâl a mentora er mwyn grymuso myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe â sgiliau ymarferol, hyder a chysylltiadau â byd diwydiant.
- Cefnogi recriwtio a datblygu’r gweithlu: Darparu piblinell o bobl dalentog, frwdfrydig, wedi’u hyfforddi’n dda ar gyfer The Secret Hospitality Group sy’n barod i ateb gofynion datblygol y gweithlu lletygarwch.
- Cydweithredu i ychwanegu gwerth cymdeithasol: Cymryd rhan mewn mentrau sy’n canolbwyntio ar y gymuned megis digwyddiadau, allgymorth ysgolion, a hyrwyddo arferion lletygarwch cynaliadwy a chynhwysol.
- Llywio rhagoriaeth trwy arloesi: Datblygu rhaglenni hyfforddi, gweithdai ac adnoddau arloesol sy’n cyd-fynd â’r tueddiadau a’r anghenion diweddaraf ym maes lletygarwch.
“Rydyn ni’n falch dros ben o fod yn partneru â The Secret Hospitality Group mewn ffordd sydd wir yn pontio’r bwlch rhwng addysg a diwydiant”, meddai Paul Kift, Dirprwy Bennaeth Sgiliau a Phartneriaethau.
“Trwy ddatblygu’r cysylltiadau cryf hyn, nid yn unig rydyn ni’n mynd i’r afael â bylchau sgiliau yn y sector, ond rydyn ni hefyd yn rhoi i’n myfyrwyr y profiad ymarferol, yr wybodaeth a’r rhwydweithiau sydd eu hangen arnynt i ffynnu yn eu gyrfaoedd a gyrru’r diwydiant lletygarwch yn ei flaen,” ychwanegodd.
“Bwriad yr Academi yw rhoi profiad bywyd go iawn, cymorth a sgiliau i bobl ifanc er mwyn iddyn nhw ddisgleirio ym myd cyflym a buddiol lletygarwch, ac rydyn ni’n falch tu hwnt o fod yn gweithio gyda’r Coleg,” meddai Lucy Hole ac Amy Harvey o The Secret Hospitality Group.
“Trwy ein lleoliadau amryfal, rydyn ni’n ymrwymedig i greu llwybrau gyrfa ystyrlon a gwella enw da lletygarwch fel diwydiant bywiog, hirdymor a hynod fuddiol.”
Disgwylir i Academi The Secret Hospitality Group x Coleg Gŵyr Abertawe fod yn fodel blaengar ar gyfer addysg lletygarwch a datblygu’r gweithlu, a fydd yn fuddiol i ddysgwyr, cyflogwyr a’r gymuned ehangach.