Newyddion y Coleg
Cau ffordd dros dro - Campws Tycoch
Oherwydd gwaith ailddatblygu, bydd y fynedfa i’r campws o gyfeiriad Heol Tycoch ar gau ar ddydd Sadwrn 22 Medi.
Ar y dyddiad hwn, defnyddiwch y ffyrdd isod o gyrraedd a gadael y campws:
Cyrraedd: Heol Cocyd (Mynedfa Hill House)Gadael: BroadwayMae hyn yn berthnasol i holl staff a defnyddwyr y Ganolfan Chwaraeon.
Diolch am eich amynedd a’ch cydweithrediad wrth i’r gwelliannau hyn gael eu rhoi ar waith.
Darllen mwy
Prosiect ‘Sgiliau ar gyfer y Gweithle’ newydd i Rymuso Gweithlu De-orllewin Cymru
Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi lansio menter newydd sydd â’r nod o ddysgu sgiliau mawr eu hangen i unigolion ar draws de-orllewin Cymru er mwyn ateb anghenion lleol a helpu pobl i ffynnu yn y gweithlu heddiw.
Lansiwyd prosiect Sgiliau ar gyfer y Gweithlu yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti yn ystod Wythnos Addysg Oedolion, ac felly roedd yn gyfle priodol i ganolbwyntio ar helpu oedolion i ailhyfforddi ac adeiladu sgiliau ar gyfer y dyfodol.
Darllen mwy
Carreg filltir mewn arloesedd cynaliadwy yng Ngorseinon
Yn ddiweddar, roedd Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o nodi digwyddiad ‘gosod y garreg gopa’ ar yr adeilad newydd yng Ngorseinon, carreg filltir arwyddocaol yn y gwaith o ailddatblygu’r campws.
Darllen mwy
Coleg yn croesawu dysgwyr newydd – Ffair y Glas 2025
Mae myfyrwyr newydd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi cael cyfle i ddysgu rhagor am fywyd campws yn Ffair y Glas 2025.
Eleni, roedd gan y digwyddiadau yr un thema sef ‘Cynefin’ – ymdeimlad o berthyn i’ch cymuned.
Darllen mwy
Seren rygbi Alun Wyn Jones yn hyrwyddo dysgu gydol oes fel llysgennad dros Wythnos Addysg Oedolion 2025
Mae eicon rygbi Cymru, Alun Wyn Jones, wedi lansio Wythnos Addysg Oedolion 2025, wrth iddo ddechrau rôl newydd fel llysgennad ymgyrch genedlaethol sy’n dathlu dysgu gydol oes.
Mae’r wythnos, a gynhelir rhwng 15 a 21 Medi, yn cael ei rhedeg gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, ac mae’n cynnwys cyrsiau am ddim, digwyddiadau, a sesiynau cofrestru ledled Cymru.
Tîm tirlunio yn cystadlu ar gyfer Gwobr Cymru Daclus
Mae’r tîm Tirlunio ac Eco-adeiladu yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Cymru Daclus.
Ers 1990, mae’r Gwobrau, a drefnir gan Cadwch Gymru’n Daclus, ac wedi’u noddi eleni gan Gymdeithas Tai Wales & West, yn taflu goleuni ar arwyr tawel yr amgylchedd ledled y wlad.
Darllen mwy
Diwrnod Croeso 2025
Gyda’r flwyddyn academaidd newydd ar fin dechrau, cynhaliodd Coleg Gŵyr Abertawe ddigwyddiad croeso arbennig iawn i fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg ar Gampws Gorseinon.
Yn ystod Diwrnod Croeso 2025 fe wnaeth staff a myfyrwyr fwynhau amrywiaeth o weithgareddau gyda’r nod o gael pawb i ddefnyddio eu Cymraeg wrth ddod i adnabod ei gilydd.
Ymhlith y gwesteion arbennig roedd cyflwynydd S4C a throellwr BBC Radio Cymru, Mirain Iwerydd, a siaradodd am ei gyrfa hyd yma gan roi cyngor ar sut i greu riliau diddorol ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol.
Darllen mwyColeg yn gobeithio ennill dwy Wobr STEM Cymru
Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer mewn dau gategori yng Ngwobrau nodedig STEM Cymru 2025.
Mae Gwobrau STEM Cymru yn tynnu sylw at y sefydliadau a’r unigolion sy’n gwneud gwahaniaeth i agenda STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg) yng Nghymru.
Mae gobaith i’r Coleg ennill dwy wobr – Rhaglen Addysgol STEM (Sector Cyhoeddus) a Menyw STEM y Flwyddyn.
Darllen mwy
O’r llwyfan i’r dudalen
Pan nad yw’n addysgu’r cenhedlaeth nesaf o actorion yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, mae Wyn Richards – Arweinydd Cwricwlwm ar gyfer Diploma Proffesiynol UAL Lefel 4 mewn Perfformio (Actio) – yn ysgrifennu ar gyfer cylchgrawn uchel ei barch y diwydiant Drama & Theatre.
Mae erthygl ddiweddaraf Wyn yn canolbwyntio ar y gwaith a gwblhaodd ei fyfyrwyr ar gyfer eu Prosiect Mawr Terfynol yn ôl ym mis Mai.
Darllen mwy
Coleg yn cipio Gwobr Hyfforddiant y Dywysoges Frenhinol
Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi ennill Gwobr Hyfforddiant nodedig y Dywysoges Frenhinol am gyrraedd safon rhagoriaeth mewn hyfforddiant a lles yn y gweithle trwy ei fenter cymorth menopos.
Mae Gwobrau Hyfforddiant y Dywysoges Frenhinol yn anrhydeddu sefydliadau sy’n dangos ymrwymiad rhagorol i ddysgu a datblygu, ac eleni maen nhw’n dathlu degawd o ragoriaeth hyfforddiant.
Yn cyd-ddigwydd â phen-blwydd Ei Huchelder y Dywysoges Frenhinol yn 75 oed, roedd degfed flwyddyn y Gwobrau wedi cael 143 o geisiadau, gyda 57 yn ennill y wobr fawreddog.
Pagination
- Previous page ‹‹
- Page 5
- Tudalen nesaf ››